Strategaeth Treftadaeth ar Gwfer Bwrdeistref Sirol WrecsamMae’r Strategaeth Treftadaeth yn nodi pam bod ein treftadaeth leol yn bwysig ac mae’n creu strategaeth ar gyfer ein treftadaeth leol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam dreftadaeth gyfoethog o gyfnodau cyn-hanesyddol hyd heddiw. Yn y fwrdeistref sirol mae treftadaeth yn bwysig o safbwynt rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol (Adran 2.1 am fanylion).
Mae nifer o wahanol sefydliadau yn gysylltiedig â chadwraeth, rhannu gwybodaeth a hyrwyddo ein treftadaeth leol gan gynnwys:
Gwasanaeth Treftadaeth y Fwrdeistref Sirol (adran 2.2 a 2.3)
Yr adrannau Cynllunio, Addysg a Datblygiad Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Sefydliadau treftadaeth cenedlaethol a rhanbarthol e.e. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Dyfrffyrdd Prydain
Grwpiau treftadaeth cymunedol e.e. Cyfeillion Amgueddfeydd Wrecsam, grwpiau hanes lleol, Ymddiriedolaeth Ddinesig Wrecsam a Sefydliad Coffa Ceiriog.
Cyrff cenedlaethol a rhanbarthol: CyMAL - Cyngor Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru ac Amgueddfeydd Cenedlaethol ac Orielau Cymru. (Adrannau 2.2 a 2.3 am fanylion)
Mae’r strategaeth yn trafod cryfderau a gwendidau yn ein treftadaeth leol (Adran 3.1 am fanylion)
Mae hefyd yn disgrifio’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu ein treftadaeth leol (Adran 3.2 am fanylion)
Ein gweledigaeth a’n hamcanion ar gyfer treftadaethMae nifer o bobl a chymdeithasau o fewn ein cymunedau eisoes yn cydnabod pwysigrwydd ein treftadaeth. Rydym am i’n treftadaeth fod o bwys i bawb ac iddi wneud gwahaniaeth i’w bywydau.
Galluogi i wir botensial ein treftadaeth ffynnu fel y gall wneud y cyfraniad gorau posibl a chyfoethogi pob agwedd ar fywyd y fwrdeistref sirol, er budd trigolion lleol ac ymwelwyr.
Mae’r Strategaeth yn cynnig cyfres o argymhellion ar gyfer y pum mlynedd nesaf, 2005-2010 (Adran 4.2 am fanylion):
Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’n treftadaeth a sut y gall gyfrannu at fywydau pawb
Atgyfnerthu’r partneriaethau a’r adnoddau sy’n cefnogi treftadaeth
Sicrhau bod treftadaeth yn chwarae rhan lawn wrth gryfhau ein cymunedau
Sicrhau y cedwir ein treftadaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae'r ddogfen yma as gael i ddadlwytho yn y ffortmat isod:
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Fersiwn Word 138Kb ![]()
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Fersiwn PDF 206Kb ![]()
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Fersiwn RTF 212Kb ![]()
Atodiad 1 - Crynodeb o’r Argymhellion
Mae'r ddogfen yma as gael i ddadlwytho yn y ffortmat isod:
Atodiad 1 - Crynodeb o’r Argymhellion - Fersiwn Word 53Kb ![]()
Atodiad 1 - Crynodeb o’r Argymhellion - Fersiwn PDF 117Kb ![]()
Atodiad 1 - Crynodeb o’r Argymhellion - Fersiwn RTF 70Kb ![]()
Atodiad 2 - Cynllun Gweithredu 2005/06
Mae'r ddogfen yma as gael i ddadlwytho yn y ffortmat isod:
Atodiad 2 – Cynllun Gweithredu 2005/06 - Fersiwn Word 71Kb ![]()
Atodiad 2 – Cynllun Gweithredu 2005/06 - Fersiwn PDF 141Kb ![]()
Atodiad 2 – Cynllun Gweithredu 2005/06 - Fersiwn RTF 139Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |