Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Yr Argymhellion Allweddol dros Wella

 

Yr Argymhellion Allweddol dros Wella yw (Adran 4.3 am fanylion):

Argymhelliad 1

Sefydlu rhaglen a fydd yn hybu proffil treftadaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Argymhelliad 2

Cydlynu cysylltiadau TGCh rhwng y Cyngor, gweithredwyr treftadaeth eraill a sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y gymuned a’r wasg leol (gan gynnwys y BBC) i hwyluso mynediad at wybodaeth am dreftadaeth leol i drigolion ac ymwelwyr â’r fwrdeistref sirol.

Argymhelliad 3

Hyrwyddo mynediad corfforol a deallusol cynaliadwy i asedau treftadaeth lleol - p’un a ydynt yn gofebion, deunyddiau archifol neu’n arteffactau a sicrhau y ceir dehongliad cywir o dreftadaeth drwy hyrwyddo gweithgareddau ymchwilio gwreiddiol.

Argymhelliad 4

Dylai’r Cyngor weithio gyda chymdeithasau cymunedol i atgyfnerthu’r rhwydweithio rhwng cymdeithasau treftadaeth cymunedol a’u gallu i weithio â’u cymunedau lleol.

Argymhelliad 5

Dylai’r Cyngor hyrwyddo cynllunio a marchnata asedau a gweithgareddau treftadaeth lleol ar y cyd rhwng gweithredwyr treftadaeth. Gallai hyn dynnu ar fodel y Rhwydwaith Eglwysi Agored i greu dulliau cynaliadwy o hyrwyddo cyfleoedd treftadaeth sydd fel arall ar raddfa fach ac wedi’u gwasgaru a chysylltu’r cyfleoedd hyn â’u cymunedau lleol.

Argymhelliad 6

Adeiladu ar yr arfer da sydd eisoes wedi’i sefydlu o fewn rhaglenni adfywiad economaidd a gwledig i gysylltu datblygiad treftadaeth â chyfleoedd gwaith a hyfforddiant, twristiaeth gynaliadwy a mentrau amgylcheddol.

Argymhelliad 7

Darparu cyswllt rhwng y Cyngor, cyrff addysg a darparwyr treftadaeth i ddatblygu mwy o ddefnydd o adnoddau treftadaeth lleol ymarferol a dynol yng nghwricwlwm ffurfiol yr ysgol ac mewn rhaglenni dysgu gydol oes, cymunedol a theuluol.

Argymhelliad 8

Mynd i’r afael â’r diffyg sgiliau trwy ddod â sefydliadau datblygiad economaidd, adfywiad, addysg, dysgu a hyfforddiant at ei gilydd i ystyried datblygu sgiliau ar gyfer y sector treftadaeth, gan gynnwys ar gyfer cymdeithasau cymunedol a gwirfoddolwyr ac i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen o ran technegau adeiladu traddodiadol ym maes cadwraeth a phrosiectau eraill.

Argymhelliad 9

Dylai adrannau’r Cyngor sy’n hyrwyddo datblygiad cymunedol a buddion pobl ifanc a phobl hŷn weithio gyda chyrff addysg a dysgu a sefydliadau eraill i gydlynu rhaglenni sy’n:

  • Cydnabod a dathlu treftadaeth nodedig cymunedau Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan gynnwys ei chymuned Gymraeg a’r rheini sydd newydd gyrraedd, yn ogystal â chymunedau sefydledig.
  • Cefnogi cymunedau lleol i archwilio eu treftadaeth eu hunain, yn enwedig eu profiad cymunedol diweddar o dreftadaeth ddiwydiannol drwy hanes llafar ac ymagweddau eraill.
  • Meithrin cysylltiadau rhyng-genhedlaeth o fewn cymunedau drwy gynnwys pobl hŷn, grwpiau cymunedol lleol gydag ysgolion a phobl ifanc yn y broses o archwilio hanes teuluol, lleol a chymunedol.

Argymhelliad 10

Sefydlu polisi a gweithdrefnau i sicrhau bod prosesau cynllunio a datblygu’n ymdrin â budd cymunedol posibl asedau treftadaeth ac yr ystyrir defnyddiau eraill a defnyddiau cynaliadwy ar gyfer adeiladau hanesyddol bob amser yn hytrach na’u dymchwel.

Argymhelliad 11

Sicrhau bod y wybodaeth sylfaenol am ein treftadaeth sy’n cael ei chadw ar y Cofnod Safleoedd a Chofebion yn ddiweddar ac yr adolygir y Gofrestr Henebion er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu gwybodaeth bresennol.

Argymhelliad 12

Sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i sefydlu rhaglen dreigl mewn perthynas â chadwraeth cofebion yn y fwrdeistref sirol.

Argymhelliad 13

Ymgymryd â rhaglen gam wrth gam i uwchraddio isadeiledd ffisegol y Cyngor Bwrdeistref Sirol mewn perthynas â darpariaeth amgueddfeydd ac archifau’n unol â safonau cenedlaethol.

Argymhelliad 14

Parhau i ddatblygu a chadw casgliadau sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol Bwrdeistref Sirol Wrecsam a sicrhau y cânt eu cynnal yn unol â safonau cenedlaethol.

Argymhelliad 15

Gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill, sefydliadau cenedlaethol a chyrff treftadaeth fel y gellir gwneud asedau treftadaeth lleol sy’n cael eu cadw y tu allan i’r fwrdeistref sirol, gan gynnwys casgliadau amgueddfeydd ac archifau, yn fwy hygyrch o’r fwrdeistref sirol.

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Yr Amcan
Ein Gweledigaeth
Yr Argymhellion Allweddol dros Wella
Dweud Eich Dweud
Treftadaeth Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint