|
Croeso i'r adran 'Dweud eich Dweud'.
Mae sawl ffordd i chi ddweud eich barn wrthym. Rydym wedi darparu rhestr o ffyrdd y gallwch chi roi atborth i ni isod.
Diogelu Data
Bydd yr holl ddata a ddarperir gennych yn cael eu storio a'u defnyddio yn unol â thelerau Deddf Diogelu Data 1998. Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd.
Sylwadau a Chwynion
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i Ofal Cwsmer. Fel rhan o'n hymdrech i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol, mae angen i ni wybod pan fo gennych gwyn.
Hoffem glywed gennych hefyd os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynghylch sut i wella'n gwasanaethau neu os cewch chi unrhyw anhawster wrth ddefnyddio unrhyw wasanaethau neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am sut y gallwn helpu.
Adran Sylwadau a Chwynion
Ffurflen Sylwadau Ar Lein
Ymgynghoriad Cyfoes
Canlyniadau Ymgynghoriadau Blaenorol
|