Newidiadau yn ein Polisi Gosod EiddoRydym yn adolygu sut mae’r Cyngor yn neilltuo ei eiddo. Gan eich bod ar ein cofrestr dai ar hyn o bryd, byddem yn croesawu eich barn ar ein cynigion. Mae hwn yn rhan o’n proses ymgynghori a dyma’ch cyfle i ddweud eich barn.
Pan fydd y polisi newydd wedi cael ei weithredu, fe all eich pwyntiau newid. Cofiwch y bydd yr un peth yn digwydd i bawb sydd ar Gofrestr Dai’r Cyngor.
Sefydlwyd ein polisi presennol yn 2005. Ers hynny, mae’r sefyllfa dai yn Wrecsam wedi newid ac roeddem yn teimlo fod angen newid ein polisi i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Mae’r newidiadau sydd gennym mewn golwg yn effeithio ar ein cynllun pwyntiau. Ar y funud nid ydym yn bwriadu newid sut fyddwn yn cynnig tai, na’r wybodaeth a roddwn i ymgeiswyr a’i chyhoeddi ar ein gwefan.
Gorlenwi – Ar hyn o bryd, rydym yn rhoi 50 pwynt am bob ystafell wely ychwanegol sydd arnoch ei hangen.
Rydym yn bwriadu cynyddu’r pwyntiau hyn i 75 (hyd at uchafswm o 150 pwynt) gan ein bod yn sylweddoli fod pobl sy’n byw mewn tai gorlawn angen cymaint o gymorth ag y gallant i symud i eiddo mwy addas.
Plant mewn Fflatiau Uchaf – Ar hyn o bryd, rydym yn rhoi 30 pwynt am un plentyn mewn fflat uchaf a 50 pwynt am ddau blentyn neu fwy.
Rydym yn bwriadu cynyddu’r pwyntiau hyn i 50 pwynt am un plentyn a 70 pwynt am ddau blentyn neu fwy. Rydym yn ymwybodol o’r anawsterau i rai pobl os oes ganddynt deuluoedd mewn fflatiau i fyny’r grisiau a’r gobaith yw y bydd y pwyntiau ychwanegol hyn yn gallu helpu iddynt symud i eiddo mwy addas.
Cysylltiad Lleol – Ar hyn o bryd, rydym yn rhoi 25 pwynt am gysylltiad lleol: 15 pwynt am gysylltiad â’r Fwrdeistref Sirol a 10 pwynt am gysylltiad â’r gymuned lle’r ydych eisiau byw.
Rydym yn bwriadu cynyddu’r pwyntiau hyn i 45, gyda 25 pwynt am gysylltiad â’r GYMUNED lle’r ydych eisiau byw ac 20 pwynt am gysylltiad â’r FWRDEISTREF SIROL. Rydym yn bwriadu cynyddu’r pwyntiau hyn gan fod Aelodau Lleol yn teimlo nid oedd digon o bwysigrwydd ar gysylltiad lleol ymgeiswyr.
Byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam – Ar hyn o bryd, rydym yn rhoi pwyntiau cysylltiad lleol i ymgeiswyr sydd wedi byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam am 6 mis yn y 12 mis diwethaf neu 3 blynedd yn y 5 mlynedd diwethaf.
Rydym yn bwriadu rhoi pwyntiau cysylltiad lleol i ymgeiswyr sydd wedi byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam am 3 blynedd yn y 5 mlynedd diwethaf YN UNIG.
Pwyntiau Cosb – Ar hyn o bryd, rydym yn tynnu 20 pwynt am bob £100 sy’n ddyledus i’r Cyngor neu unrhyw Landlord Cymdeithasol Cofrestredig arall mewn ôl-ddyledion rhent neu daliadau eraill.
Rydym yn bwriadu cynyddu’r pwyntiau hyn fel ein bod yn tynnu 50 pwynt am bob £100 sy’n ddyledus i’r Cyngor neu unrhyw Landlord Cymdeithasol Cofrestredig arall mewn ôl-ddyledion rhent neu daliadau eraill.
Pan fydd y polisi wedi cael ei lunio’n derfynol a’r newidiadau wedi cael eu cytuno byddwn yn ailasesu cais pawb ac yn dweud wrth bawb ar y Gofrestr Dai beth yw cyfanswm newydd eu pwyntiau. Rydym yn disgwyl y bydd hyn yn digwydd yn gynnar yng ngwanwyn/ haf 2010.
Oes gennych gwestiwn sydd angen ateb? Anfonwch e-bost i housing@wrexham.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom yn:
Gwasanaethau Tai,
Fford Rhuthun,
Wrecsam,
LL13 7TU.
Rhif Ffon: 01978 315300
Dyddiad cau i atebion yw 28ain Fai 2010
Hoffech chi gael y wybodaeth hon mewn iaith neu ar ffurf wahanol? Os felly, cofiwch gysylltu â ni ar 01978 315300.