Mae Adran Asedau a Datblygu Economaidd yn rheoli tair marchnad dan do (Marchnad y Bobl, Marchnad y Cigyddion a'r Farchnad Gyffredinol) yn ogystal â Marchnad Awyr Agored dydd Llun ar Sgwâr y Frenhines a'r Farchnad Cynnyrch Lleol bob mis.
Fel rhan o’i raglen buddsoddi Canol y Dref, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam angen eich safbwyntiau a’ch barn er mwyn ein helpu i greu profiad masnachu mewn marchnadoedd yr ydych yn ei ddymuno yn y dyfodol.
Er mwyn dweud eich dweud, cwblhewch yr arolwg sydd ar gael yn swyddfeydd Canol y Dref y Cyngor neu cliciwch ar y ddolen isod. Y dyddiad cau i gyflwyno sylwadau yw 6 Gorffennaf 2012.


