|
Gofynnodd yr arolwg diweddaraf am farn ynghylch y Gwasanaeth Cofrestru (sy'n gyfrifol am bethau megis cynnal cofrestrau genedigaethau, marwolaethau, priodasau, newid enwau a chynnal priodasau dinesig) a chanfyddiadau pobl am drosedd yn y Fwrdeistref a chanol y dref.
Gwybodaeth mwy am Holiadur Cofrestru Canlyniadau
-
Mae 1 o bob 10 ymatebydd wedi defnyddio'r Gwasanaeth Cofrestru ac mae 9 allan o 10 yn fodlon â'r gwasanaeth a gynigir gan y Gwasanaeth Cofrestru.
-
Mae'n well gan 2 o 3 ymatebydd gofrestru genedigaethau wyneb yn wyneb. O'r rhain, mae'n well gan 63% ganolfan 'galw heibio' ac mae bron i hanner yr ymatebwyr yn teimlo y byddai agor Swyddfa Gofrestru ar ddydd Sul ar gyfer priodasau'n fuddiol.
-
Dywedodd 9 o 10 eu bod yn teimlo'n ddiogel iawn neu'n weddol ddiogel wrth fod allan yn y Fwrdeistref. Mae 94% yn teimlo'n ddiogel iawn neu'n weddol ddiogel yng nghanol y dref yn ystod yr wythnos.
-
Teimlodd 50% fod troseddu'n dal i fod yr un peth ond mae 37% yn credu bod troseddu yn y Fwrdeistref wedi gwaethygu!
-
Dywedodd 1 allan o 3 eu bod yn teimlo'n ddiogel iawn neu'n weddol ddiogel wrth fod allan yn y Fwrdeistref gyda'r nos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Swyddog Cynorthwydd Polisi
Ffôn: 01978 292176
Ebost: statistics@wrexham.gov.uk
|