Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Llais Y Bobl - Canfyddiad Pobl o Droseddau, Cyfathrebu a Diwylliant Cymru

 

Ceisiodd yr ymchwil ddarganfod barn ac agwedd trigolion lleol at droseddau, cyfathrebu gyda’r Cyngor, ymgynghoriadau, gweithdrefn gwynio’r GIG a diwylliant Cymru.

Dychwelwyd cyfanswm o 303 holiaduron gan aelodau’r panel, sy’n gyfradd ymateb o 58%.

Canfyddiad Pobl o Droseddau

  • Dywed y mwyafrif (91%) eu bod naill ai’n teimlo’n ddiogel iawn (35%) neu’n weddol ddiogel (57%) wrth fod allan ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod y dydd. Mae hyn wedi cynyddu ychydig ers arolwg 2004 pan roedd 89% yn teimlo’n ddiogel yn ystod y dydd.

  • Dywed ychydig dros draean (34%) eu bod yn teimlo’n ddiogel iawn (3%) neu’n weddiol ddiogel (31%) wrth fod allan ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gyda’r nos. Mae bron i dau draean (63%) yn teimlo’n ychydig o fregus (41%) neu’n fregus iawn (22%) gyda’r nos. Mae hyn wedi gwella ychydig ers 2004 pan roedd 31% yn teimlo’n well gyda’r nos ac roedd 64% yn teimlo’n fregus.

  • Mae mwy na phedwar allan o bump (86%) yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded o gwmpas eu hardal leol yn ystod y dydd.

  • Mae bron i chwarter (23%) yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded yn eu hardal leol gyda’r nos tra bod 74% yn teimlo weddol fregus neu’n fregus iawn.

  • Y pum prif welliant ar gyfer diogelwch yn yr ardal leol yw mwy o blismyn (49%), mwy o oleuadau stryd (13%), mwy o gamerâu TCC (6%), gostyngiad yn nifer y gangiau o arddegwyr (2%) a mwy o weithgareddau/ clybiau i bobl ifanc. Awgrymwyd gwelliannau tebyg yn 2004.

  • Mae bron i bawb (94%) yn teimlo’n ddiogel iawn (45%) neu’n weddol ddiogel (49%) wrth fod yng nghanol tref Wrecsam yn ystod y dydd yn yr wythnos. Mae’r canlyniadau’r un fath â 2004.

  • Mae un o bob saith (14%) yn teimlo’n ddiogel iawn (2%) neu’n weddol ddiogel (13%) gyda’r nos ar y penwythnos yng nghanol tref Wrecsam, ynghyd â 34% sy’n teimlo’n weddol ddiogel a 43% sy’n teimlo’n fregus iawn. Mae’r ganran sy’n teimlo’n ddiogel wedi disgyn yn sylweddol ers 2004 pan roedd 21% yn teimlo’n ddiogel gyda’r nos ar y penwythnos ac mae’r rhai sy’n teimlo’n fregus wedi cynyddu’n sylweddol (72%).

  • O ran y Fwrdeistref yn gyffredinol, gwelir cytundeb ymysg aelodau’r panel fod lefelau trosedddu wedi gwella.

Cyfathrebu

Gofynnwyd i aelodau’r panel i ystyried cylchgrawn y Cyngor ‘Cyswllt’ sy’n cael ei bostio atynt.

  • Cytunodd 55% fod copi o ‘Cyswllt’ yn cael ei gludo i’w cartrefi.

  • Mae ychydig dros hanner (51%) yn cytuno bod y cylchgrawn yn ddiddorol ac mae 56% yn cytuno bod yr erthyglau’n llawn gwybodaeth. Mae oddeutu chwarter yn methu â chytuno nac anghytuno ond, yn galonogol, ychydig iawn sy’n anghytuno.

  • Mae’n ymddangos bod ‘Cyswllt’ yn apelio at drigolion hŷn y Fwrdeistref gan fod 59% a 67% o ymatebwyr 65+ oed yn cytuno bod y cylchgrawn yn ddiddorol a bod yr erthyglau’n cynnig llawer o wybodaeth.

Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i ymatebwyr ynghylch ymgynghoriadau.

  • Mae bron i bawb (97%) yn teimlo ei fod yn bwysig bod y Cyngor neu gyrff cyhoeddus eraill yn ymgynghori â phobl leol ynghylch datblygu gwasanaethau neu bolisïau lleol.

  • Mae dau allan o bump (39%) yn fodlon bod y cyngor a’r bwrdd iechyd lleol yn gofyn am eu barn ac yn ei hystyried wrth gynllunio gwasanaethau a pholisïau.

Diwylliant Cymru

  • Mae un allan o ddeg (10%) yn disgrifio eu hunain fel siaradwyr Cymraeg gyda 10% arall yn datgan bod aelod o’r teulu’n siarad Cymraeg. Dywedodd pedwar allan o bump (80%) nad oeddent hwy nac aelod o’u teulu’n siarad Cymraeg.

  • Mae gan 5% o’r panel blant sy’n mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg tra bod gan 27% blant nad ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Nid oes gan ddau draen (65%) o’r panel blant o oed ysgol.

  • Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw ‘hybu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru’. Gofynnwyd i aelodau o’r panel a oeddent yn cefnogi hyn. Mae tri chwarter (78%) yn cefnogi’r nod tra bod 21% yn peidio â’i gefnogi. Ni chafwyd ymateb gan 1%.

  • Mewn cwestiwn agored, gofynnwyd i’r panel beth allai’r Cyngor ei wneud i ‘hybu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru’. Ni roddodd dau draen (65%) ymateb. O’r rhai a ymatebodd, y tri phrif ateb oedd cynnig dosbarthiadau Cymraeg am ddim (7%), mwy o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion a cholegau (6%) a mwy o gyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (5%).

Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Swyddog Cynorthwydd Polisi
Ffôn: 01978 292176
Ebost: statistics@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Dweud Eich Dweud!
Llais Y Bobl
Gwybodaeth Proffil
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint