Cyfleu Blaenoriaethau CorfforaetholPanelwyr Llais y Bobl oedd fwyaf tebygol o nodi eu bod o’r farn bod Cyngor Wrecsam yn canolbwyntio mewn gwirionedd ar ‘gynyddu nifer y cartrefi sy’n ailgylchu drwy gynllun carreg y drws Ailgylchu gyda Michael’ (70%). Hwy oedd lleiaf tebygol o ddweud eu bod o’r farn bod y Cyngor yn canolbwyntio ar ‘leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Wrecsam’ (28%).
Mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r cwestiwn blaenorol ymatebwyr oedd fwyaf tebygol o nodi eu bod o’r farn y dylai Cyngor Wrecsam ganolbwyntio ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Wrecsam’ (67%) a lleiaf tebygol o nodi y dylent ganolbwyntio ar ‘gynyddu nifer y cartrefi sy’n ailgylchu drwy gynllun carreg y drws Ailgylchu gyda Michael’ (29%.)
| Ydych chi o’r farn bod CBSW yn canolbwyntio ar: | Beth ddylai CBSW ganolbwyntio arno: | bwlch | |
|---|---|---|---|
| Gwella cyrhaeddiad addysgol | 33% | 55% | +22% |
| Sicrhau y cynigir cymorth addysgol i blant a waherddir o’r ysgol | 32% | 46% | +14% |
| Cynyddu nifer y bobl hŷn sy’n cael cymorth gan y Cyngor a gwella’r gwasanaethau hynny | 32% | 61% | +29% |
| Gwella gwaith cynnal a chadw ar bafinau a ffyrdd | 36% | 58% | +22% |
| Darparu un pwynt cyswllt ar gyfer rhoi gwybod am bob problem sy’n effeithio ar strydoedd, priffyrdd a mannau agored | 41% | 45% | +4% |
| Cynyddu nifer y cartrefi sy’n ailgylchu drwy ‘Ailgylchu gyda Michael’ | 70% | 29% | -41% |
| Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Wrecsam | 28% | 67% | +39% |
| Heb ei nodi | 14% | 6% |
Nododd dros hanner yr ymatebwyr (55%) eu bod o’r farn bod y Cyngor yn rhoi gwybodaeth gyson iddynt am gynllun carreg y drws ‘Ailgylchu gyda Michael.’ Mae 14% o’r farn eu bod yn cael gwybodaeth gyson am sut mae’r cyngor yn sicrhau y cynigir yr un cymorth addysgol i blant a waherddir o’r ysgol yn unol â’u hawl i gael yr addysg honno.
Panelwyr oedd fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn gwybod mwy am ‘leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Wrecsam (60%) a gwella’r broses o gynnal a chadw pafinau a ffyrdd (59%).