Cydlyniad y Gymuned – Llais y bobl

Dywedodd 63% o’r ymatebwyr eu bod un ai’n cytuno’n bendant neu’n tueddu i gytuno bod pobl o wahanol gefndiroedd yn tynnu ymlaen yn dda gyda’i gilydd yn eu cymuned (6% a 57% yn ôl eu trefn) cynnydd o 1% ar 2007, roedd 25% yn tueddu i anghytuno/anghytuno’n bendant bod pobl yn tynnu ymlaen yn dda gyda’i gilydd (19% a 6% yn ôl eu trefn). Roedd 12% o’r ymatebwyr o’r farn bod rhy ychydig o bobl(4%) neu fod preswylwyr y gymuned leol i gyd o’r un cefndir(8%). O’r holl ymatebwyr, roedd perchnogion cartrefi ac ymatebwyr 55 i 64 oed yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod pobl o wahanol gefndiroedd yn tynnu ymlaen yn dda gyda’i gilydd yn eu cymuned (69% a 74% yn ôl eu trefn).

Gwelwyd yr enghreifftiau mwyaf sylweddol o gynnydd pan ofynnwyd i ymatebwyr ‘i ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno eich bod yn perthyn i …’

  • eich cymdogaeth, 89% (o gymharu â 73% yn 2007)
  • Cymru, 81% (o gymharu â 72% yn 2007)
  • Bwrdeistref Sirol Wrecsam 78% (o gymharu â 51% yn 2007)

Sy’n dangos cynnydd ar gyfartaledd o 17.33% tros y 2 flynedd a aeth heibio. Roedd dynion a’r rhai 55 oed a throsodd yn sylweddol fwy tebygol o gytuno eu bod yn perthyn i’w cymdogaeth (95% a 96%) a’r gymuned leol (88% a 91%).

Pethau mae angen eu gwella

Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis y pump o bethau y mae angen eu gwella fwyaf yn eich cymuned leol:

  • Gweithgareddau/cyfleusterau i’r arddegau 56%
  • Trwsio’r ffyrdd a’r palmentydd 41%
  • Tai fforddiadwy boddhaol 33%
  • Y gobaith o gael gwaith 30%
  • Strydoedd glân 28%
  • Gweithgareddau/cyfleusterau i blant ifanc 25%
  • Maint y troseddu 24%
  • Maint y tagfeydd traffig 23%
  • Costau byw lleol 17%
  • Goleuadau’r stryd 17%

Pan ofynnwyd iddynt a oeddent o’r farn y byddent yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn eu cymuned leol, 30% yn unig a ddywedodd eu bod o’r farn y byddent yn gallu peri newid, gyda 48% yn tueddu i anghytuno, a 21% yn anghytuno’n bendant. O blith yr ymatebwyr a oedd o’r farn y byddent yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir, roedd 44% yn 65 oed a throsodd.

Pan ofynwyd a oedd ymatebwyr o’r farn bod preswylwyr yn eu cymuned leol yn parchu gwahaniaethau ethnig ei gilydd, roedd 60% yn cytuno, 7% yn cytuno’n bendant a 33% yn anghytuno (27% yn anghytuno a 6% yn anghytuno’n bendant).

Fel o’r blaen roedd 84% o’r ymatebwyr a oedd yn cytuno â hyn yn 65 oed a throsodd.

Pan ofynwyd iddynt ddewis o restr o 10 sefyllfa lle’r oedd ymatebwyr yn cyfarfod a siarad yn rheolaidd â phobl o darddiadau ethnig gwahanol (yn y gwaith, siop leol, tai bwyta/tafarnau/sinema ac ati, ar fws neu drên, yn eich cymuned, mewn lle astudio, chwaraeon neu weithgareddau ffitrwydd, addoldy, arall, dim un o’r uchod) yr atebion mwyaf poblogaidd oedd yn y gwaith (41%), mewn siop leol (38%), ac mewn tŷ bwyta/tafarn/sinema ac ati. (32%). Yr atebion lleiaf poblogaidd oedd mewn addoldy (8%), chwaraeon neu weithgaredd ffitrwydd (11%) ac arall (13%). O’r atebion a gafwyd, ychydig llai nag un o bob pump (18%) a ddewisodd dim un o’r uchod.

yn ôl i'r brig