O blith y 501 o ymatebwyr dywedodd ychydig mwy na’r chwarter (29%) eu bod yn berchen ar gi. Pan ofynwyd iddynt a ddylai ci gael bod mewn mannau penodol (gwelwch isod) roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno.
Pan ofynwyd a ddylai perchnogion cŵn orfod cadw eu cŵn ar dennyn pob amser mewn mannau penodol, cytunodd o leiaf bedwar o bob pump o’r panelwyr y dylent fod yn gyfrifol am gadw eu ci ar dennyn trwy’r amser.
Yr uchaf oedd 89% yn cytuno y dylent fod ar dennyn drwy’r amser ar y ffyrdd, a’r isaf oedd 80%.
Gofynnwyd i bob un o’r ymatebwyr a oedd yn gwybod sut i gysylltu â ‘gwasanaeth cŵn crwydrol allan o oriau’ y cyngor. Dywedodd ychydig mwy na chwarter yr ymatebwyr eu bod yn gwybod (29%).