Mae canran yr ymatebwyr sy’n teimlo’n ddiogel yn ystod y dydd yn y fwrdeistref wedi parhau i godi ers 2005, ac erbyn hyn yn 93%. Hefyd, mae’r ganran sy’n teimlo’n Ddiogel Iawn wedi codi’n sylweddol ers 2005 (42% yn erbyn 35% yn ôl eu trefn. Roedd yn amlwg o’r ymatebion ei bod yn llawer mwy tebygol y byddai pobl sy’n byw mewn cartrefi y maent yn berchen arnynt yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel iawn/weddol ddiogel.
Cododd canran y bobl sy’n teimlo’n Ddiogel Iawn o gwmpas y lle yn ystod y dydd i 42% (o’i chymharu â 40% yn 2007, a 35% yn 2005).

Gwelwyd lleihad sylweddol hefyd yng nghanran y bobl sy’n teimlo’n Anniogel o gwmpas y lle gyda’r nos yn y fwrdeistref, gyda 57% o’r bobl yn teimlo’n ‘Weddol Ddiogel’ neu’n ‘Ddiogel Iawn’ (o gymharu hyn â 41% yn 2007, a 34% yn 2005).

Er mai cynyddu’n sylweddol a wnaeth yr ymdeimlad cyffredinol o ddiogelwch tros y 4 blynedd a aeth heibio, roedd yr ymatebwyr yn dal i ddangos bod bwlch sylweddol rhwng yr ymdeimlad o ddiogelwch yn ystod y dydd ac yn ystod y nos (93% yn erbyn 57%).
Mewn perthynas â’r ymdeimlad cyffredinol o ddiogelwch yn CBSW, roedd cynnydd o 3% yn y bobl sy’n teimlo’n ddiogel yn eu cartref yn ystod y dydd (99%, o gymharu â 96% yn 2005 a 2007 fel ei gilydd), cynnydd o 5% yn y bobl sy’n teimlo’n ddiogel yn cerdded ar eu pennau eu hunain yn ystod y dydd (o gymharu â 91%, ac 86% yn 2005).

Gwelwyd cynnydd digon tebyg yn ymdeimlad cyffredinol pobl o ddiogelwch gyda’r nos hefyd, gydag 83% yn teimlo’n ddiogel yn y cartref ar eu pennau eu hunain (o gymharu ag 80% yn 2007, a 71% yn 2005), a chynnydd o 13% yn nifer y bobl sy’n teimlo’n ddiogel yn cerdded ar eu pennau eu hunain gyda’r nos (46%, o gymharu â 33% yn 2007, a 23% yn 2005).
O’r ymatebwyr a nododd eu bod yn teimlo’n anniogel yn cerdded adref gyda’r nos roedd 67% yn ferched a 65% yn ddi-waith.
Dywedodd bron pob un a ymatebodd (99%) ei fod yn teimlo’n ddiogel yng Nghanol Tref Wrecsam yn ystod y dydd yn ystod yr wythnos, cynnydd o 4% ar 2007. Gyda hyn dywedodd 91% eu bod yn teimlo’n ddiogel yn ystod y dydd, cynnydd o 6% ar 2007. Bu cynnydd sylweddol hefyd yn nifer yr ymatebwyr sy’n teimlo’n ddiogel yn ystod y nos yn ystod yr wythnos, gyda chynnydd o 7% o 48% yn 2007. Gwelwyd un o’r enghreifftiau mwyaf o gynnydd yn nifer yr ymatebwyr sy’n teimlo’n ddiogel yn ystod y nos yn ystod y penwythnos, gyda’r nifer bron iawn yn dyblu tros y 4 blynedd a aeth heibio (23% yn 2005, 31% yn 2007, a 44% yn 2009).

Mae 73% o’r ymatebwyr yn credu bod troseddu yng Nghanol Tref Wrecsam un ai wedi gwella neu ei fod yr un fath (10% a 63% yn ôl eu trefn), a 78% o’r un farn ynghylch CBSW (14% a 64% yn ôl eu trefn). Bu cynnydd o 3% oddi ar 2007 yn y bobl sy’n credu bod troseddu yng Nghanol Tref Wrecsam yn waeth, er ei fod yn dal i fod yn lleihad o 10% oddi ar 2005 (37% yn 2005, 24% yn 2007, a 27% yn 2009).