Strydoedd o FriRoedd ychydig llai na hanner o banelwyr Llais y Bobl (45%) wedi clywed am ‘Strydoedd o Fri.’ Pan ofynnwyd iddynt beth yw amcan y cynllun, ymhlith yr ymatebion nodweddiadol oedd ei fod yn ffordd o roi gwybod am broblemau ac yn gynllun a oedd â’r nod o wella golwg Bwrdeistref Wrecsam.
Ymatebwyr a oedd wedi clywed am y cynllun oedd fwyaf tebygol o fod wedi gwneud hynny:
Roedd llai na phumed (15%) o’r rheiny a oedd wedi clywed am ‘Strydoedd o Fri’ wedi cysylltu â’r Cyngor amdano, a hynny dros y ffôn gan amlaf. (62%) Fodd bynnag, pan ofynnwyd iddynt dim ond 11% o’r rheiny a glywodd am y cynllun a oedd yn gwybod y rhif ffôn.
Ymhlith y rheiny a oedd wedi clywed amdano, roedd y rhesymau yn cynnwys problemau gyda sbwriel, baw cŵn, llwybrau troed a goleuadau stryd.
Roedd y rhan fwyaf o banelwyr yn fodlon ar bob agwedd ar gysylltu â’r Cyngor o ran ‘Strydoedd o Fri.’
Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fod yn fodlon ar ‘dorri porfa’ (76%), ‘gwaith cynnal prysgwydd/gwelyau blodau’ (71%) a ‘goleuadau stryd’ (70%). Roeddent yn fwyaf tebygol o fod yn anfodlon ar ‘waith cynnal a chadw ar y ffyrdd’ (51%) a ‘lleihau/clirio baw cŵn’ (45%).
Pan ofynnwyd p’un a oedd gwasanaethau wedi gwella, wedi gwaethygu neu wedi aros yr un peth dros y 12 mis diwethaf, roedd rhwng 47% a 76% o banelwyr o’r farn bod pob un o’r gwasanaethau wedi gwaethygu. Roedd ychydig llai na thraean o’r ymatebwyr o’r farn bod ‘gwaith cynnal prysgwydd/gwelyau blodau’ (31%) a ‘chasglu sbwriel’ (28%) wedi gwella dros y 12 mis diwethaf.
Er gwaethaf lefelau uchel o foddhad (80% - ffigur 12) ymatebwyr oedd fwyaf tebygol o nodi bod ‘goleuadau stryd’ (76%) wedi gwaethygu dros y 12 mis diwethaf.
Cyhoeddusrwydd effeithiol:
Dulliau cyhoeddusrwydd mwyaf llwyddiannus y cynllun oedd papurau newydd lleol, cylchgrawn Cyswllt a thaflenni