Canlyniadau Ymgynghoriadau Blaenorol: Gwaith ar y Ffyrdd yn Wrecsam

Gwaith ar y Ffyrdd yn Wrecsam

Pan ofynnwyd i banel arolwg Llais y Bobl p’un a oeddent o’r farn eu bod wedi cael rhybudd digonol am waith ar y ffyrdd yn y Fwrdeistref teimlai 43% eu bod wedi cael digon o rybudd, neu rybudd boddhaol am hyn, gyda 36% yn nodi nad oeddent wedi cael rhybudd digonol a 21% arall yn teimlo nad oeddent wedi cael digon o rybudd o gwbl.

Ymatebwyr oedd fwyaf tebygol o fod wedi cael gwybod am waith ar y ffyrdd a oedd yn digwydd ledled y Fwrdeistref ar ffurf arwyddion gwybodaeth (57%) a’r papur newydd lleol (47%)

Panelwyr oedd fwyaf tebygol o nodi y byddai’n well ganddynt gael gwybod am waith ar y ffyrdd yn yr ardal ar ffurf ‘arwyddion gwybodaeth’ (62%) a’r papur newydd lleol (60%). Byddai’n well gan dros draean (36%) gael gwybod drwy orsafoedd radio lleol a byddai’n well gan dros lai na chwarter (24%) ddefnyddio gwefan y Cyngor.

Nododd y rhan fwyaf o ymatebwyr (79%) fod gwybodaeth am waith sy’n digwydd ar y ffyrdd yn ddefnyddiol.

Nododd y rhan fwyaf o banelwyr (90%) fod gwybodaeth am waith ar y ffyrdd yn gywir.

Gofynnodd yr arolwg iddynt hefyd faint o weithiau yr oedd gwaith ar y ffyrdd wedi achosi iddynt fod yn hwyr am deithiau penodol dros y ddeuddeg mis diwethaf. Mae ymatebion wedi’u nodi yn y tabl isod. Y daith i’r gwaith oedd fwyaf tebygol o gael ei heffeithio, gyda 57% o ymatebwyr yn nodi bod gwaith ar y ffyrdd wedi achosi iddynt fod yn hwyr i’r gwaith unwaith o leiaf. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn y daith i’r ysgol/coleg oedd y daith a oedd yn llai tebygol o gael ei heffeithio, gyda 69% o ymatebwyr yn dweud na fuont erioed yn hwyr oherwydd gwaith ar y ffyrdd.

(Canran) Byth 1-3 gwaith 3-6 gwaith Mwy na 7
Gwaith 43 36 9 12
Ysgol/coleg 69 22 4 5
Apwyntiad 46 40 10 4
Cyfarfod ffrindiau/teulu 49 41 6 4

yn ôl i'r brig

Cyswllt i