Deall ein Cwsmeriaid - Canlyniadau Ymgynghoriad ac Arolwg 2007

Dyma’r drydedd ddogfen ‘Deall ein Cwsmeriaid’ a gynhyrchwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’n dangos sut yr ymatebodd pobl leol i gwestiynau a ofynnwyd iddynt ynglŷn â’u barn am y Cyngor.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymgynghori gyda phobl leol ar brosiectau a phenderfyniadau pwysig.  Mae hefyd yn rheoli panel arolwg cwsmer - Llais y Bobl - sy’n darparu panel ystadegol ddilys o 800 o bobl sy’n cytuno i gwblhau arolwg manwl deirgwaith y flwyddyn.  Mae hyn yn caniatáu inni gasglu gwybodaeth fanwl ynglŷn â blaenoriaethau a barn pobl leol.

Yn yr un modd â’r llynedd, mae ‘Deall ein Cwsmeriaid 2007’ yn dadansoddi data’r arolwg a’r ymgynghoriad a gasglodd y Cyngor ac yn cyflwyno’r canlyniadau yng nghyd-destun Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor.   Fe’i cynhyrchir bob blwyddyn er mwyn cyd-fynd â chylchredau cyllid, corfforaethol a chynllunio gwasanaeth.

Mae hyn yn caniatáu inni ystyried eich barn wrth bennu cynlluniau gwaith a chynllunio prosiectau.  Yn fwy fwy, rydym hefyd yn gallu cymharu casgliadau cyfredol yn erbyn canlyniadau blaenorol, er mwyn dangos tueddiadau a newidiadau ym marn pobl tros amser.

Roedd y wybodaeth a gasglwyd yn 2006/07 yn berthnasol i flaenoriaethau corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i:

  • Gryfhau Cydlyniad Cymunedol
  • Gwella’r Stoc Dai
  • Gwella Cyswllt Cwsmer
  • Gwella Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
  • Lleihau Trosedd ac Ofn Trosedd
  • Hyrwyddo’r iaith Gymraeg a Diwylliant Cymreig
  • Busnesau ffyniannus, gweithlu medrus a chymunedau adfywiedig

Mae’r papur hwn hefyd yn cyflwyno’n fyr:

  • Gwybodaeth arwyddbost ar ymarferiadau ymgynghori a wnaed gan adrannau penodol
  • Fforymau ymgynghori y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn eu defnyddio a’u cefnogi

Deall ein Cwsmeriaid - Canlyniadau Ymgynghoriad ac Arolwg 2007

Mae'r ddogfen yma as gael i ddadlwytho yn y ffortmat isod:

Deall ein Cwsmeriaid - Canlyniadau Ymgynghoriad ac Arolwg 2007 - Fersiwn PDF 1.1Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig