Canlyniadau Ymgynghoriadau Blaenorol: Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ymwybyddiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau presennol a boddhad â hwy

Roedd dros hanner ymatebwyr panel Llais y Bobl yn ymwybodol bod ‘gweithgareddau chwaraeon’ (53%) a ‘chanolfannau ieuenctid/clybiau ieuenctid’ (50%) ar gael yn y gymdogaeth. Roedd 48% arall yn ymwybodol o ddarpariaeth ‘geidiau/sgowtiaid’ yn eu cymdogaeth.

Er bod traean o ymatebwyr wedi graddio’r ddarpariaeth o gyfleusterau ieuenctid fel da iawn/eithaf da gwnaeth ychydig llai na hanner (44%) eu graddio fel eithaf gwael/gwael iawn.

Er bod traean o ymatebwyr wedi graddio’r ddarpariaeth o gyfleusterau ieuenctid fel da iawn/eithaf da, gwnaeth ychydig llai na hanner (44%) eu graddio fel eithaf gwael/gwael iawn.

Beth ddylid ei ddarparu?

Nododd ychydig llai na dau draean o ymatebwyr (65%) mai ‘canolfannau ieuenctid’ yw’r cyfleuster pwysicaf i’w darparu ar gyfer pobl ifanc yn eu cymdogaeth, gyda 57% arall yn nodi ‘ gwasanaethau hamdden’.

Nododd y rhan fwyaf o banelwyr (74%) eu bod o’r farn y dylid darparu cyfleusterau ieuenctid yn lleol. Nododd ychydig dros bedwar pumed o ymatebwyr (82%) nad ydynt o’r farn y dylai fod angen i bobl deithio mwy na 3 milltir i ddefnyddio cyfleusterau ieuenctid.

Nododd ychydig dros hanner o’r panelwyr eu bod o’r farn y dylid darparu cyfleusterau ieuenctid ‘mewn adeiladau cymunedol presennol eraill’.

Roedd ymatebwyr 10 pwynt canran o fwy tebygol o nodi eu bod o’r farn y dylai cyfleusterau ieuenctid fod ‘ar gael i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed’ (55%) yn hytrach na chael eu ‘targedu at grwpiau oedran penodol yn yr ystod 11 i 25 oed’ (45%). Ymatebwyr a nododd eu bod o’r farn y dylai cyfleusterau ieuenctid gael eu targedu at grwpiau oedran penodol oedd fwyaf tebygol o nodi pobl ifanc rhwng 14-16 oed (92%) fel y grŵp y dylid ei dargedu.

Ymatebwyr oedd fwyaf tebygol o nodi y dylai cyfleusterau ieuenctid fod ar gael ‘yn ystod yr wythnos gyda’r nos’ yn ystod amser tymor yr ysgol/coleg (83%) ac yn ystod gwyliau’r ysgol/coleg (66%).

Cyfrifoldeb dros Bobl Ifanc

Cytunodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y dylai pob un o’r grwpiau a restrir gymryd cyfrifoldeb dros bobl ifanc. O fewn y grwpiau hyn, cytunodd y rhan helaethaf (99%) mai’r ‘rhieni/gofalwyr’ a ddylai wneud hyn. Yn dilyn hyn nodwyd y Gwasanaeth Ieuenctid (83%), Ysgolion (79%) ac aelodau eraill o’r teulu (77%).

Pobl Ifanc ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cytunodd 59% o banelwyr fod ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol a achosir gan bobl ifanc’ yn broblem yn eu cymdogaeth. Cytunodd y rhan helaethaf o banelwyr (92%) mai ‘yfed dan oed yw un o’r prif ffactorau sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc’ a chytunodd ychydig dros dri chwarter o’r panelwyr (76%) fod ‘pobl ifanc yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol oherwydd pwysau gan eu cyfoedion.

yn ôl i'r brig

Cyswllt i