Yn sgîl cyflwyno’r rheoliadau uchod mae hi’n ofynnol ar bob Cyngor Bwrdeistref Sirol i gynnal adolygiad, unwaith pob pedair blynedd, o Ardaloedd a Chanolfannau Pleidleidisio’r Fwrdeistref Sirol. Y mae’r ail o’r adolygiadau hyn i’w gwblhau erbyn yr 31ain o Ragfyr 2011.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu dechrau’r adolygiad gyda chyfnod o ymgynghori ffurfiol sydd i ddechrau ar yr 15eg o Orffennaf 2011.
Mae hawl gan unrhyw etholwr yn y Fwrdeistref Sirol gyflwyno barn neu sylwadau ar addasrwydd a rhesymoldeb y canolfannau pleidleisio presennol. Bydd y Fwrdeistref Sirol yn holi Swyddog Etholiadau’r ddwy etholaeth seneddol, pleidiau gwleidyddol, cynghorwyr lleol a Chynghorau Cymuned am eu barn a’u sylwadau.
Bydd barn a sylwadau’r Swyddog Etholiadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ymgynghoriad.
Mae gan y Cyngor ddiddordeb neilltuol mewn clywed oddi wrth unigolion neu grwpiau â gwybodaeth arbenigol o drefnu mynediad neu gyfleusterau i bobl ag anableddau. Bydd Rheolwr Cyfartaledd y Cyngor yn cyfrannu at y broses hefyd.
Mae’n bwysig, fodd bynnag, bod pob unigolyn neu gorff sydd am weld newid yn y ddarpariaeth yn cynnig dewis arall o leoliad mwy addas e.e. o ran mynediad, ar gyfer eu canolfan bleidleisio. Mae yna ffurflen i’w chael o wefan y Cyngor i gynorthwyo’r gwaith o roi barn a sylwadau, ac mae lleoliad pob canolfan bleidleisio i’w gael ar system mapio rhyngweithiol y wefan.
Mae’n rhaid i bob barn a sylw gyrraedd erbyn dydd Gwener y 30ain o Fedi 2011. Mae’n rhaid hefyd, yn ôl gofynion y rheoliadau adolygu ardaloedd a chanolfannau pleidleisio, cyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad pob barn, sylw a gohebiaeth gysylltiedig â’r adolygiad.
Rhybudd o'r Adolygiad - fformat PDF 51Kb ![]()
Gwybodaeth Gefndir Am Adolygiad O'r Cynllun Pleidleisio Presenno - fformat PDF 61Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |