Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cau Swyddfeydd Post - Dweud eich dweud

 

Ym mis Mai 2007 ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos cyhoeddodd y llywodraeth fesurau i wneud Rhwydwaith Swyddfa’r Post yn gynaliadwy. Cadarnhaodd y cyhoeddiad hwn y byddai hyd at 2,500 o ganghennau yn gorfod cau o ganlyniad i hyn ac oddeutu 500 o’r rhain yn cael eu cyfnewid am bwyntiau gwasanaethu "Allgymorth". Cynhelir ymgynghoriadau ynghylch y mesurau cau hyn yn rhanbarthol dros y 12-18 mis nesaf yn y Rhaglen Newid Rhwydwaith.

Ar 29ain Gorffennaf 2008 cyhoeddodd Swyddfa'r Post Cyf. y rhestr gau arfaethedig ganlynol fel rhan o Raglen Newid Rhwydwaith Cynllun Ardal Gogledd Cymru;

  • Parc Acton - 36 Lôn Rhosnesni
  • Bradle - Ffordd Glanllyn
  • Rhosrobin - Lôn Dodd
  • Bryn Hyfryd - Stryt yr Allt
  • Marchwiel - Ffordd Wrecsam
  • New Broughton - Ffordd Newydd
  • Ponciau - Stryt y Bonc
  • Rhosymedre - Stryd Fawr
  • Tanyfron - Llwyn Ifor Stores
  • Trefor - Ffordd Llangollen

Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn annog defnyddwyr Swyddfa’r Post ac aelodau’r cyhoedd i ymateb i’r cau arfaethedig drwy arwyddo’r holiadur ar-lein.

Mae copi caled o’r holiadur, y gellir ei lawrlwytho isod, ar gael i ganiatáu ichi gasglu mwy o ymatebion. Bydd copïau caled o’r holiadur ar gael mewn Swyddfeydd Post, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Gallwch hefyd ysgrifennu’n uniongyrchol at Swyddfa’r Post gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ganlyn:

Tîm Ymgynghori Cenedlaethol,
Swyddfa’r Post Cyf.,
TÎM YMGYNGHORI RHADBOST

neu ebostiwch consultation@postoffice.co.uk. Rhaid i bob ymateb a anfonir yn uniongyrchol at Swyddfa’r Post Cyf. gyrraedd cyn diwedd eu hymgynghoriad, ar 15fed Medi.

I weld y meini prawf mynediad a ddefnyddiwyd i benderfynu ar y cau arfaethedig ac am fwy o wybodaeth am y Rhaglen Newid Rhwydwaith gweler gwefan Rhaglen Newid Rhwydwaith Swyddfa’r Post.

Copi caled o’r holiadur

Os hoffech ddychwelyd eich holiadur drwy’r post at Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) anfonwch at:

Ymgynghoriad Cau Swyddfeydd Post
Adran Datblygu Economaidd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR

Pob ymateb i CBSW yn ôl erbyn 8fed Medi 2008

Cau Swyddfeydd Post - Ymgynghoriad

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat canlynol:

Cau Swyddfeydd Post - Ymgynghoriad - fersiwn Word 273Kb

Cau Swyddfeydd Post - Ymgynghoriad - fersiwn PDF 245Kb

Cau Swyddfeydd Post - Ymgynghoriad - fersiwn Testun Plaen 82Kb

Petai’n well gennych gael y ddogfen hon mewn iaith arall cysylltwch â’n tîm ar 01978 292452.

Gellir darparu’r ddogfen hon mewn print bras neu fel tâp clywedol. Ffoniwch 01978 292452.

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint