Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Holiadur Cofrestru Canlyniadau

 

Casglwyd nifer o ymatebion gan yr Holiadur Cofrestru diweddar a'r unigolyn lwcus sydd wedi ennill gwerth £50.00 o docynnau rhodd yw Mrs Louise Morcumb o Lannerch Banna.

Rhoddwyd tref ar yr ymatebion ac, o ganlyniad, mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cytuno gwneud rhywfaint o newidiadau newydd a chyffroes i'r gwasanaethau a gynigwn.

O 3ydd Mai 2005 ymlaen, ac o ganlyniad uniongyrchol i gasglu data trwy'r holiadur, bydd y Swyddfa Gorfrestru ar agor i'r cyhoedd o 8.45am tan 5.15pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 8.45am tan 4.45pm ar ddydd Gwener. Cofrestrir genedigaethau a marwolaethau trwy apwyntiad a bydd yr apwyntiad cyntaf am 9am a'r olaf am 4.30pm (4pm ar ddydd Gwener). Bydd apwyntiadau ar gyfer ardystio Rhybuddion o Briodas ar gael o 9.30am tan 5pm o ddydd Llun i ddydd Mercher a 9.30am tan 4pm ar ddydd Iau a dydd Gwener.

Caiff Rhybuddion o Briodas eu hardystio o 8am ddau ddiwrnod y mis.

O'r dyddiad hwn, cynigir amryw o seremonïau newydd hefyd gan gynnwys Seremonïau Enwi, Seremonïau Ailddatgan Addunedau Priodas a Seremonïau Ymrwymiad (seremonïau i barau, sydd, am ba bynnag reswm, yn methu neu'n dewis peidio â priodi). Noder mai seremonïau sifil yw'r rhain ac ni chaniateir unrhyw gynnwys crefyddol o gwbl. Dylid nodi hefyd nad oes gan y seremonïau hyn unrhyw statws cyfreithiol ac ni ellir defnyddio'r tystysgrifau coffaol a roddir ar adeg y seremoni i sefydlu unrhyw hawliau cyfreithiol.

Yn Rhagfyr 2005, daw'r Gofrestr Partneriaethau Sifil i rym i alluogi parau o'r un rhyw i 'gyfreithloni' eu perthynas yng ngolwg y gyfraith. Mae'r gofrestr hon yn gyfreithlon ac yn gyfrwymol ac yn rhoi hawliau amrywiol i barau megis pensiwn, tenantiaeth, etifeddiaeth ac ati.

Ni fydd unrhyw orfodaeth gyfreithiol ar barau i gymryd rhan mewn 'seremoni' ond, mae'r Bwrdd Gweithredol wedi cytuno y gallwn ni, Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam, gynnig seremoni gyda'r gobaith o wella'r weithred o arwyddo Cofrestr Partneriaethau Sifil a helpu i sicrhau y bydd y diwrnod yn un cofiadwy.

Gwybodaeth Bellach

Am fanylion pellach, cysylltwch â Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam:

Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam
Ty Dewi Sant
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1NF

Ffôn: 01978 292027
E-bost: registration@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cysyltiadau i

Dychwelyd i'r mynegai Ymholiadau
Dychwelyd i'r dudalen Gwasanaeth Cofrestru
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint