Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflwyno Polisi Cludiant Ysgol newydd o fis Medi 2012 ymlaen. Bydd gweithredu'r polisi hwn yn sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn ôl gofynion Mesur Teithio Dysgwyr (Cymru) 2008 – fel y derbyniwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Effaith y polisi newydd fydd sicrhau y bydd cludiant di-dâl ar gael i holl ddisgyblion cynradd sy'n byw mwy na 2 filltir o'u hysgol addas agosaf ac i holl ddisgyblion uwchradd sy'n byw mwy na 3 milltir o'u hysgol addas agosaf. Bu ymgynghori helaeth ar y cynigion hyn rhwng 16 Tachwedd 2009 a 26 Chwefror 2010.
Bydd y polisi newydd hwn yn berthnasol yn unig i newydd-ddyfodiaid i ysgolion o’r dyddiad gweithredu ymlaen, h.y. 1af Medi 2012. Er enghraifft, pan ddaw’r polisi i rym ym mis Medi 2012 yna bydd holl ddisgyblion oedd yn derbyn cludiant ysgol am ddim ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ym mis Gorffennaf 2012 yn dal i dderbyn y gwasanaeth, ond iddynt beidio â symud tŷ a’u bod yn aros yn yr un ysgol tan ddiwedd eu Blwyddyn 6 (yn achos addysg gynradd) neu eu Blwyddyn 11 (yn achos addysg uwchradd). Os bydd cyfeiriad a/neu ysgol y disgybl yn newid, bydd angen cyflwyno cais newydd am gludiant, fydd yn cael ei ystyried yn unol â’r polisi ar y pryd.
Polisi Cludiant Ysgol Arfaethedig Diwygiedig - fformat Word 71Kb ![]()
Polisi Cludiant Ysgol Arfaethedig Diwygiedig - fformat PDF 19Kb ![]()
Polisi Cludiant Ysgol Arfaethedig Diwygiedig - fformat Testun Plaen 76Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Mae fy mab eisoes yn cael cludiant di-dâl i’w ysgol. A fydd ei chwaer yn gymwys i gael cludiant i’r un ysgol pan fydd hi’n dechrau yn yr ysgol ym mis Medi?
Ni fydd y polisi newydd ohono’i hun yn golygu y bydd brodyr a chwiorydd yn cael eu trin yn yr un modd â’u brodyr neu chwiorydd hŷn, a bydd pob cais yn cael ei farnu yn ôl y polisi.
Mae fy mhlentyn ym Mlwyddyn 8. A fydd ei gludiant yn dod i ben ar ddiwedd Blwyddyn 8?
Bydd y polisi’n berthnasol yn unig i fyfyrwyr sy’n newid ysgol yn dilyn gweithredu’r polisi diwygiedig. Bydd unrhyw ddisgyblion oedd yn cael cludiant ysgol cyn y newid polisi (Gorffennaf 2012) yn dal i gael cludiant tan ddiwedd eu Blwyddyn 6 (cynradd) neu eu Blwyddyn 11 (uwchradd). Os bydd myfyriwr yn symud tŷ yn ystod y cyfnod hwn yna rhaid cyflwyno cais newydd am gludiant, fydd yn cael ei ystyried yn ôl y polisi.
A gaf i ddal i ddewis ysgol fy mhlentyn / plant, sydd heb fod yr ysgol agosaf at ein tŷ?
Mae gan unrhyw riant hawl i ddewis yr ysgol y maent am i’w plentyn neu blant fynd iddi. Nid yw’r Polisi Cludiant Ysgol ond yn dangos cyfrifoldeb y Cyngor o ran yn darparu cludiant, sy’n pennu’r ysgol addas agosaf. Os nad oes gan y plentyn hawl i gludiant ysgol oherwydd nad hon yw’r ysgol agosaf yna cyfrifoldeb y rhieni fydd cael y plentyn i’r ysgol.
Pryd fydd y newid yn y polisi cludiant yn dechrau?
Bydd y polisi newydd yn dechrau ar 1af Medi 2012.
Sut fyddaf i'n gallu cael fy mhlentyn i'r ysgol pan fyddaf yn gweithio?
Pan nad oes gan blant hawl i gludiant ysgol am ddim, yna cyfrifoldeb y rhieni / gofalwyr yw eu cludiant – dyna fel y mae dan y polisi presennol.
Pam fod y Cyngor wedi penderfynu newid y polisi cludiant i ysgolion?
Wrth wneud adolygiad o’r gwasanaeth ystyriwyd bod y ddarpariaeth bresennol ar gyfer cludiant ysgol yn annheg.
A fydd y newid yn effeithio ar rieni a phlant eraill mewn rhannau eraill o Wrecsam?
Wrth wneud adolygiad o’r gwasanaeth ystyriwyd bod y ddarpariaeth bresennol ar gyfer cludiant ysgol yn annheg.
Faint o arian fydd y Cyngor yn ei arbed trwy atal fy nghludiant di-dâl?
Nid yw adolygiad y Polisi Cludiant Ysgol ar sail arbed unrhyw arian wrth ddarparu cludiant rhwng cartref ac ysgol; y bwriad yw dileu anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol.
Sut mae’r polisi diwygiedig hwn yn effeithio ar ble fydd fy mhlentyn yn cael addysg?
Gallwch ddal i ddewis unrhyw ysgol ar gyfer addysg eich plentyn. Yn amodol ar ein meini prawf Polisi Derbyniadau mae modd cynnig lle yn yr ysgol a ddewiswch. Fodd bynnag, byddai cludiant ysgol am ddim yn cael ei ddarparu i'r ysgol addas agosaf yn unig.
Pan fyddwch yn dweud "ysgol addas agosaf" beth mae addas yn ei olygu?
Yn achos addysg brif ffrwd hwn fyddai'r sefydliad agosaf sy'n diwallu anghenion y myfyrwyr gyda lle ar eu cyfer.
Beth os nad oes digon o le yn fy ysgol agosaf?
Ar rai adegau bydd gormod eisiau mynd i'r ysgol addas agosaf. Os yw fel hyn mae angen cynnig lle mewn ysgol arall weithiau a allai olygu taith fyddai'n gymwys i gael cludiant ysgol am ddim.
Ydw i'n gorfod anfon fy mhlentyn i ysgol yn Wrecsam?
Mae gan rieni hawl i ddewis i ba ysgol fydd eu plant yn mynd. Os mai'r ysgol yw'r agosaf at gyfeiriad cartref y disgybl a'r daith yn gymwys, yna Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn talu am gludiant heb ystyried yn ardal pa Awdurdod Lleol mae'r ysgol. Nid yw hyn yn berthnasol i ysgolion nas cynhelir.
Pam na allaf i anfon fy mhlentyn i'r ysgol a ddewisaf?
Mae dewis ysgol ar gyfer eu plant yn benderfyniad pwysig i rieni ei wneud. Os oes lle ar gael yn yr ysgol a ddewiswyd yna bydd lle'n cael ei gynnig. Fodd bynnag, ni all yr Awdurdod Lleol fod yn gyfrifol am gludo disgyblion i'r ysgolion hyn oni bai fod y daith yn gymwys dan ein meini prawf. Y nod yw peidio â chyfyngu ar ddewis y rhieni, ond ni all yr Awdurdod Lleol fod yn atebol yn ariannol am dalu costau'r hyn sydd orau gan rieni.
Beth os na allaf i fforddio talu am gludiant fy mhlentyn i fynd i'r ysgol a ddewisaf?
Mae rhieni'n rhydd i ddewis ysgol heblaw eu hagosaf. Fodd bynnag, wrth wneud y penderfyniad hwnnw rhaid ystyried a fyddant yn gallu fforddio hynny dros gyfnod hir. Gall newid ysgol aflonyddu ar addysg plant ac, felly, dylech fod yn sicr y gallwch dalu'r costau cludiant heddiw ac yn y dyfodol.
Os ydych yn ansicr a fyddai'r daith i'r lleoliad a ddewiswyd yn gymwys i gael cludiant ysgol yna dylech gysylltu â'n swyddfeydd i gael cyngor. Os bydd disgwyl i'r rhieni drefnu cludiant, byddwn hefyd yn gallu egluro pa wasanaethu sydd ar gael.
Os wyf yn dal i ddewis anfon fy mhlentyn i ysgol heblaw'r un "addas agosaf" pa gymorth allai'r Cyngor ddarparu?
Dewis y rhieni yw penderfynu pa ddarpariaeth addysg i gael ac, felly, ar y rhieni neu warcheidwaid y mae cyfrifoldebau cludiant.
Oes gennych gwestiwn sydd angen ateb? Anfonwch e-bost i schooltransport_consultation@wrexham.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom yn:
Cludiant Ysgol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam
L11 1LG
Os oes gennych unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y polisi arfaethedig, cwblhewch y ffurflen isod.
Mae'r rhannau sydd wedi'u marcio â * yn orfodol a rhaid i chi eu llenwi.