Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Ymgynghori ar Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Ceiriog

Casgliad:

Mae’r ymgynghoriad statudol llawn ynghylch cynnig yr Awdurdod Lleol i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Pontfadog bellach wedi dod i ben.

Ymgynghori ar Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Ceiriog


Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i staff, rhieni, budd-ddeiliaid a'r gymuned ehangach ddysgu am y cynigion trefniadaeth ysgolion a gyflwynwyd yn eich ardal chi.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dymuno ceisio barn partïon â diddordeb.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon â gwybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn y canllawiau rheoleiddio a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2013.

Yr Ymgynghoriad

Daeth yr hysbysiad statudol i ben ar 22 Mai 2018.

Yn dilyn diwedd y cyfnod hysbysiad statudol, caiff yr Adroddiad Gwrthwynebiad ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ar 7 Awst, 2018 ar gyfer penderfyniad y cynnig i gau Ysgol Pontfadog.

Cwestiynau Cyffredin - Cyllid

Ydi Cynddelw yn cael cyllid ychwanegol ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg?

Ydi, mae Cynddelw yn cael £64,822 ychwanegol fel ysgol ddwy ffrwd.

Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael £47.38 ychwanegol fesul disgybl ar gyfer gweinyddu a chyflenwadau a gwasanaethau.

Ydi’r Ffederasiwn yn symud i fod yn gyfrwng Cymraeg yn fwriadol gan fod mwy o arian fesul disgybl yn y system?

Nid dyma’r achos, mae galw cynyddol am leoedd cyfrwng Cymraeg ar draws Wrecsam. Yn 2017, roedd hyn yn 12% o’r garfan yn Wrecsam, y rhif cyfatebol yn y Ffederasiwn ar gyfer yr un cyfnod oedd 58.6%

Ydi’r cyllid fesul disgybl yn y ddogfen yn gywir? Ydi hyn yn cynnwys unrhyw arian ychwanegol ar gyfer disgyblion gydag ADY a allai olygu bod rhai costau yn fwy drud?

Mae’r ffigurau yn gywir.

Mae’r holl gyllid a ddarperir i ddisgyblion gydag ADY yn ychwanegol at y gyllideb ddirprwyedig.

Pam mae’r Ffederasiwn wedi gwario arian i wella cyfleusterau Cynddelw ac nid Pontfadog?

Mae Pontfadog wedi cael rhywfaint o gyllid gyda’r addasiadau mewnol i’r gegin/man bwyta.

Roedd y gwaith a wnaed yn benderfyniad gweithredol ar lefel yr ysgol a dylid ei godi’n uniongyrchol gyda’r Pennaeth a’r Llywodraethwyr. Mae pob un o’r ysgolion yn cael swm yn eu cyllideb ddirprwyedig ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw.

Cwestiynau Cyffredin - Addysg Gynnar/Gofal Cofleidiol

Pam nad yw Pontfadog yn darparu Addysg Gynnar a gofal cofleidiol a fyddai’n cynyddu niferoedd sy’n cael mynediad i’r ffrwd cyfrwng Saesneg?

Mae hwn yn benderfyniad gweithredol ar lefel yr ysgol a dylid ei godi gyda’r Pennaeth a’r Llywodraethwyr. Nid yw gofal cofleidiol yn ofyniad statudol ac fe’i darperir gan sefydliadau allanol mewn nifer o ysgolion Wrecsam.

Cwestiynau Cyffredin - Materion Safle – Buddsoddiad Cyfalaf

A fyddai’r ysgol yn gwahanu'r disgyblion yn Cynddelw gydag amser egwyl ac amser cinio ar wahân, waliau ar y buarth chwarae?

Er ei bod yn bosibl bod angen gwaith mewnol er mwyn darparu ar gyfer y ddwy ffrwd, nid gwahanu yw’r bwriad, mae Cynddelw yn un ysgol, a bydd yn parhau i fod felly.

A fydd yr Awdurdod Lleol yn gwerthu safle Pontfadog yn y dyfodol ac os felly, a ellir neilltuo’r cyllid i’w fuddsoddi yn y Dyffryn?

Pe bai’r safle dros ben drwy’r broses hon, mae’n debygol y byddai’r ALl yn edrych ar gael gwared ar y safle. Nid yw’n bolisi gan y Cyngor ar hyn o bryd i ail-fuddsoddi unrhyw werthiannau cyfalaf i’r Ystâd Addysg, nid yw hwn wedi’i neilltuo i unrhyw ardal benodol.

Cwestiynau Cyffredin - Proses Ymgynghori

Pan fydd yr adroddiad Ar Ôl Ymgynghori yn mynd i’r Bwrdd Gweithredol, a fyddai’n bosibl cyflwyno ymateb cyhoeddus?

Er bod proses i gyflwyno cwestiynau cyhoeddus i’r Bwrdd Gweithredol, gallwch fod yn sicr y bydd yr adroddiad ar ôl ymgynghori yn rhoi ystyriaeth i bob cwestiwn a phryder a gaiff eu codi yn ystod y broses.

Mae fel pe bai canfyddiad cyhoeddus bod y corff Llywodraethu a’r ALl yn trin Llanarmon yn wahanol.

Mae Gweinidog Cymru wedi rhoi amddiffyniad neu ‘rhagdybiaeth i aros ar agor’ ar nifer o ysgolion bach/gwledig ar draws Cymru, Llanarmon yw’r unig ysgol yn Wrecsam sydd wedi’i rhestru ac er bod y niferoedd yn dal i fod yn isel, y natur wledig sydd wedi’i heithrio o’r ymgynghoriad presennol.

Pam na all y disgyblion ym Mhontfadog orffen eu haddysg yn eu hysgol bresennol fel mae rhieni’r ffrwd cyfrwng Saesneg yng Nghynddelw yn cael eu cynghori i’w wneud?

Gan mai dim ond 18 disgybl sydd yn yr ysgol, nid yw’r niferoedd yn gynaliadwy, wrth i’r plant hŷn adael, gallai sefyllfa godi lle mae’n rhaid i’r Ffederasiwn barhau i gyllido lefelau staffio presennol a pharhau i adeiladu costau ar gyfer llai o blant am hyd at chwe mlynedd. Byddai’r gost fesul plentyn yn afresymol i’r ysgol ddarparu addysg ar draws y Ffederasiwn yn y ffordd hon.

Cwestiynau Cyffredin - Categori Iaith Ysgol

Beth yw’r Eglurhad o ran dwy ffrwd a chyfrwng Saesneg?

Gan ddefnyddio dogfen Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
Dogfen Wybodaeth Rhif: 023/2007
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2007

Diffiniad ysgol ddwy ffrwd ac ysgol cyfrwng Saesneg yw:

2. Ysgol Gynradd Ddwy Ffrwd

  • Y cwricwlwm – Mae dau fath o ddarpariaeth yn bodoli ochr yn ochr yn yr ysgolion hyn. Mae’r rhieni/disgyblion yn dewis naill ai’r ddarpariaeth sy’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, a gyflwynir yn yr un modd ag yng nghategori 1, neu’r ddarpariaeth sy’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, a gyflwynir yn yr un modd ag yng nghategori 5.
  • Iaith yr Ysgol - Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd. Natur y ddarpariaeth gwricwlaidd sy’n pennu ym mha iaith y cyfathrebir â’r disgyblion, ond mewn rhai ysgolion, rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg drwy’r ysgol. Mae’r ysgol yn cyfathrebu â’r rhieni yn y naill iaith a’r llall.
  • Y canlyniadau - Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Gymraeg, disgwylir, fel rheol, yr un canlyniadau ag ar gyfer categori 1. Ar gyfer y disgyblion hynny sydd yn y ffrwd cyfrwng Saesneg, disgwylir, fel rheol, yr un canlyniadau ag ar gyfer categori 5.

5. Ysgol Gynradd cyfrwng Saesneg yn bennaf

  • Y cwricwlwm - Mae pob disgybl yn y Cyfnod Sylfaen yn cael profiad o’r meysydd dysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf. Saesneg yw’r prif gyfrwng addysgu yn CA2. Addysgir y Gymraeg fel ail iaith yn CA2, ac mae’n bosibl y caiff rhai agweddau ar rai pynciau eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llai na 20% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Iaith yr Ysgol - Saesneg yw iaith yr ysgol o ddydd i ddydd, ond defnyddir rhywfaint o Gymraeg hefyd i gyfathrebu â’r disgyblion, gan anelu at wella eu gallu i ddefnyddio Cymraeg bob dydd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu â’r rhieni naill ai yn Saesneg neu drwy gyfrwng y naill iaith a’r llall.
  • Y canlyniadau - Fel rheol, disgwylir y bydd y disgyblion yn trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Saesneg ac yn parhau i ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf, gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith.