Gofal Cymdeithasol i Oedolion - Holiadur ar gyfer Gofalyddion

Os ydych chi’n edrych ar ôl ffrind neu berthynas sy’n sâl, yn anabl neu’n fregus (yn ddi-dâl), rydych chi’n ‘Ofalwr’ www.wrecsam.gov.uk/gofalwyr

Pa mor dda yw gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer gofalwyr yn Wrecsam?

Mae’r Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion am glywed am brofiadau Gofalwyr yn Wrecsam.

Pam fod yr arolwg hwn yn bwysig?

Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i wella ein cefnogaeth i bobl sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol gan y cyngor a chymorth i’w gofalwyr.

Llenwi’r ffurflen hon yw eich cyfle i ddweud wrthym beth ydym yn ei wneud yn dda a phethau sydd angen i ni eu newid.

Fydd y wybodaeth a roddaf yn aros yn gyfrinachol?

Bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, bydd ond yn cael ei defnyddio i ddiben yr arolwg hwn ac ni fydd unrhyw unigolion yn cael eu henwi mewn unrhyw adroddiad.

Sut mae ei lenwi?

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ticio’r blwch sy’n ateb pob cwestiwn orau i chi.

Pwy ddylai ei llenwi?

Dylai’r atebion gael eu rhoi o safbwynt gofalwr pwy bynnag sy’n derbyn gwasanaethau gan ofal cymdeithasol oedolion.

Gwenwch yr arolwg

yn ôl i'r brig