Trafnidiaeth Gymunedol

Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwario £130,000 ar wasanaethau trafnidiaeth gymunedol, gan gynnwys Charriots, West Wheels, Bysus Tacsi a Chynlluniau Ceir WRVS. Yn y cyfnod anodd hwn, rydym yn holi barn pobl am sut ddylen ni flaenoriaethu ein gwariant ar drafnidiaeth gymunedol yn y dyfodol.

Gallai datblygu cyllideb gynaliadwy ein helpu i fuddsoddi yn y gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol. Ar hyn o bryd mae saith o gwmnïau ac amrywiol strwythurau codi tâl. Gallai ennill dealltwriaeth fwy manwl o'ch anghenion ein helpu i ehangu'r gwasanaeth er budd trigolion a grwpiau anabl a rhai ar gyrion cymdeithas.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal rhwng 17 Hydref a’r 14 Tachwedd 2011.

yn ôl i'r brig

Cysylltiadau Defnyddiol