

Mae Rhaglen Gweddnewid Wrecsam yn gweithio i arbed arian ac yn meddwl gwneud newidiadau positif i sut y darperir gwasanaethau yn y dyfodol.
Rydym yn awr yn holi barn pobl am sut ddylen ni flaenoriaethu ein gwariant ar drafnidiaeth gymunedol a gwasanaethau bysus gyda chymorthdal. Mae’r galw am wasanaethau trafnidiaeth ar gynnydd, mewn cyfnod o bwysau trwm iawn ar ein cyllid. Mae angen inni fod yn siŵr ein bod yn targedu ein harian yn iawn, fel bod gan drigolion fynediad at wasanaethau pwysig.
Gwasanaethau Bysus Lleol Gyda Chymorthdal – gwasanaethau sydd eu hangen ar gymdeithas yw’r rhain ond na fyddent fel arfer yn cael eu darparu gan gwmnïau bysus oherwydd na fyddai pris y tocyn yn talu am y gost o redeg y gwasanaeth. Fel arfer siwrneiau gwledig, yn fuan yn y bore neu'n hwyr gyda'r nos ac ar ddydd Sul yw'r rhain. Ar hyn o bryd rydym yn cyfrannu 15% o gymorthdal at y rhwydwaith bysus yn Wrecsam. Mae’n costio dros £500,000 i'r cyngor pob blwyddyn.
Gwasanaethau arbennig i ysgolion - gwasanaethau i ysgolion lle codir tâl yw’r rhain, i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys a lle nad oes dewis arall ar gael. Rydym yn talu cymhorthdal ar gyfer 16 o'r llwybrau hyn. Mae’n costio dros £200,000 i'r cyngor pob blwyddyn.
Trafnidiaeth Gymunedol – trafnidiaeth i drigolion na fedrant gael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol, efallai oherwydd eu bod yn anabl neu’n byw mewn lle anghysbell. Mae’n costio dros £120,000 i'r cyngor pob blwyddyn.
Gwasanaethau Bysus Masnachol – nid oes gan y Cyngor ddylanwad dros ac nid yw'n ariannu y rhan fwyaf o'r rhwydwaith – llwybrau masnachol yw’r rhain. Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau bysus yn gwneud elw o’r prisiau a godir.
Rydym yn awgrymu blaenoriaethu ein gwariant ar y gwasanaethau sydd eu hangen fwyaf ar bobl, ac sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian. Rydym wedi didol ein gwasanaethau presennol yn goch, oren neu’n wyrdd, gan ddibynnu ar y cymhorthdal a delir am bob teithiwr (h.y. faint y mae’r gwasanaeth yn ei gostio, wedi’i rannu gan nifer y defnyddwyr)
Gwasanaethau coch = lle mae’r gwasanaeth yn costio mwy na £2 y teithiwr i’r cyngor a gallai gael ei dynnu’n ôl.
Gwasanaethau oren = lle mae’r gwasanaeth yn costio rhwng £1 a £1.99 y pen i'r cyngor. Ni fyddai’r gwasanaethau hyn yn cael eu tynnu’n ôl, ond byddem yn eu monitro’n ofalus.
Gwasanaethau gwyrdd = lle mae'r gwasanaeth yn costio llai na £1 am bob trip teithiwr i’r cyngor. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu hystyried i fod yn werth da am arian a byddem yn eu cadw.
Isod mae rhestr o’r llwybrau presennol sydd wedi eu nodi i fod yn GOCH. Cofiwch mai nid y llwybr cyfan ydyw, ond siwrneiau penodol fel a ddisgrifir.
Rydym am ymgynghori gyda defnyddwyr, trigolion ac amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol. Cadwch lygad allan am y digwyddiadau ymgynghori sydd i'w cynnal yn Llyfrgell Ganolog Wrecsam ac yn yr Orsaf Fysus.
Bydd ein staff hefyd yn mynychu’r gwasanaethau isod a allai, o dan y cynigion presennol, gael eu tynnu’n ôl.
| Rhif y Gwasanaeth | Manylion y siwrne |
|---|---|
| 13/13A | Siwrneiau 0520 a 0620 rhwng Canol Tref Wrecsam a'r Ystâd Ddiwydiannol, a 1749 a 1849 rhwng yr Ystâd Ddiwydiannol a Chanol y Dref. |
| 146 | Siwrneiau 1845, 2045 a 2245 rhwng Gorsaf Fysus Wrecsam a Whitchurch (drwy Marchwiel, Bangor Is-coed, Hanmer, Bronington) a siwrneiau 1845, 1945 a 2145 yn ôl o Whitchurch i Wrecsam. |
| 44A | Siwrneiau cylchol 1930 a 2130, Gorsaf Fysus Wrecsam i Borras ac yn ôl. |
| Cyswllt y Dref | Siwrneiau cylchol 1630, 17000 a 1730, Gorsaf Fysus Wrecsam i Barc Siopa Plas Coch, Ysbyty’r Maelor ac yn ôl. |
| 146 | Y gwasanaeth cyfan ar ddydd Sul, Wrecsam i Whitchurch ac yn ôl, drwy Marchwiel, Bangor Is-coed, Hanmer, Bronington. Siwrneiau 0945, 1145, 1445 a 1645 rhwng Wrecsam a Whitchurch, siwrneiau 1045, 1245, 1545 a 1745 rhwng Whitchurch a Wrecsam. |
| 29 | 0641 rhwng Summerhill a Gorsaf Fysus Wrecsam drwy Gwersyllt a Phendine. |
| D23 | Siwrneiau 1030, 1130, 1230 a 1330. Adegau tawel o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn, siwrneiau cylchol rhwng Wrecsam a Choed y Glen |
| 7 | Gwasanaeth cylchol 0625 rhwng Wrecsam a Pharc Caia ac yn ôl. |
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal rhwng 17 Hydref a’r 14 Tachwedd.