 Strategaeth Gymunedol Wrecsam
Gweledigaeth ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2009 - 2020
Mae Strategaeth Gymunedol Wrecsam yn gosod allan y targedau hirdymor y bydd sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cydweithio i’w cyflawni er mwyn gwella ansawdd bywyd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r Strategaeth Gymunedol i sicrhau ei bod yn parhau i ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i bobl leol nawr ac am y deuddeg mlynedd nesaf.
Lleisiwch eich barn drwy glicio ar y strategaeth ddrafft isod ac ateb yr arolwg ar-lein. Os hoffech gopi caled o’r strategaeth yna cysylltwch ag Anna Wallace drwy anfon ebost et: statistics@wrexham.gov.uk, drwy ffonio: 01978 292298, neu alw yn un o swyddfeydd y Cyngor yng nghanol y dref
Drafft o Strategaeth Gymunedol Wrecsam
Os hoffech ddychwelyd eich holiadur drwy’r post at Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) anfonwch at:
Adolygiad Strategaeth Gymunedol
Perfformiad a Gwelliant
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AY
Mae gennych hyd at 31ain Hydref 2008 i ddweud eich dweud.
Ar ôl y dyddiad hwn byddwn yn ystyried pob ymateb ac yn diweddaru’r strategaeth i sicrhau ein bod yn adlewyrchu beth sy’n bwysig i bobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam a beth allwn ni ei gyflawni o fewn yr adnoddau sydd ar gael gennym. Bydd y strategaeth diwygiedig yn cynnwys y blaenoriaethau am y 12 mlynedd nesaf a ceir cynllun gweithredu’n amlygu beth fyddwn yn ei gyflwyno gyntaf. Cyhoeddir y strategaeth derfynol erbyn 1af Ebrill 2009 a bydd ar gael yn gyffredinol.
Drafft o Strategaeth Gymunedol Wrecsam
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat canlynol:
Drafft o Strategaeth Gymunedol Wrecsam - Fersiwn Word 59Kb 
Drafft o Strategaeth Gymunedol Wrecsam - Fersiwn PDF 273Kb 
Drafft o Strategaeth Gymunedol Wrecsam - Fersiwn Testun Plaen 143Kb 
Os hoffech gopi o’r ddogfen hon mewn print bras, iaith arall, Braille, neu dâp clywedol, cysylltwch ag Anna Wallace ar 01978 292298 neu: statistics@wrexham.gov.uk.
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|