Gwerth Gorau

Rhoi Gwerth Gorau i chi

Mae "Gwerth Gorau" yn golygu bod rhaid i'r Cyngor edrych ar yr hyn mae'n ei wneud fel ei fod yn gallu gwneud gwelliannau go iawn a phositif i'r gwasanaethau rydych yn eu derbyn.

Bydd popeth rydym yn ei wneud yn cael ei archwilio dros y pum mlynedd nesaf:

  • Herio

    A yw'r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn wasanaethau rydych yn eu dymuno ac a oes modd i ni eu gwella. Mae'n rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd rydym yn ymdrin materion pwysig, fel yr amgylchedd a diogelwch y cyhoedd.

  • Cymharu

    Gyda sefydiadau eraill i weld sut maent yn gweithredu, fel ein bod yn darganfod y ffordd orau a mwyaf cost-effeithiol o wneud pethau. Mae gwybod sut mae'n gwasanaethau'n cymharu gwasanaethau'r Cynghorau eraill yn golygu y gallwch farnu gwerth ein gwasanaethau.

  • Ymgynghori

    Gyda chi fel trigolion lleol, trethdalwyr, busnesau, grwpiau lleol, ayb i ddarganfod eich barn am y gwasanaethau rydym yn eu darparu a'r gwasanaethau yr hoffech eu derbyn. Fodd bynnag, mae'r arian sydd ar gael i wario ar wasanaethau yn gyfyng felly mae angen cael cydbwysedd rhwng y gwasanaethau dymunol a'r rhai hanfodol.

  • Cystadlu

    "Yr hyn sy'n bwysig yw'r hyn sy'n gweithio". Rhaid i ni edrych am ffyrdd gwahanol a gwell o ddarparu gwasanaethau. Gallai hyn olygu bod y Cyngor a sefydliad arall yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaeth, neu fod sefydliad arall yn darparu gwasanaeth yn lle'r Cyngor.

I sicrhau bod yr holl bethau hyn yn digwydd ac yn digwydd yn iawn, mae'r Llwyodraeth wedi sefydlu Arolygiaeth Gwerth Gorau. Bydd arolygwyr yn cynnal gwiriadau annibynnol i weld a ydym yn gwneud gwelliannau.

Yn y pen draw, nod "Gwerth Gorau" yw eich bod chi, y cwsmer, yn cael budd o'r gwasanaethau gwell ac eich bod yn cael mwy o werth ohonynt.

 

yn ôl i'r brig