Os dymunwch, cewch dalu'r bil cyfan mewn yn taliad ar neu cyn Ebrill 15, , neu mewn dau randaliad ar neu cyn Ebrill 15 a Medi 15.
Mae gennych hawl statudol i dalu mewn deg rhandaliad o fis Ebrill i Ionawr . Os yw eich atebolrwydd yn dechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd gennych hawl i nifer llai o randaliadau.
Y ffordd hawdd o dalu. Gofynnwch am orchymyn Debyd Uniongyrchol trwy ffonio 01978 292031.
Lawrlwytho'r y Debyd Uniongyrchol:
Taliadau Debyd Uniongyrchol - Dim Llythyrau atgoffa; Dim gwys; Dim aros.
Gallwch dalu gyda'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd trwy ein gwasanaeth talu dros y ffôn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos gan ddefnyddio ffôn tôn gyffwrdd. Ffoniwch 0845 309 6064 a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Gellir talu taliadau'r Dreth Gyngor yn uniongyrchol ar-lein ar wefan y Cyngor sef www.wrecsam.gov.uk.
Os methwch â gwneud rhandaliad erbyn y 15fed o bob mis, yna, byddwch yn derbyn llythyr atgoffa.
Os ydych yn talu'r rhandaliad(au) coll o fewn saith diwrnod, yna cewch barhau i dalu mewn rhandaliadau misol.
Os na wnewch hynny, yna bydd y swm cyfan ar gyfer y flwyddyn yn ddyledus.
Os methwch thalu'r rhandaliadau ail waith, yna anfonir ail lythyr atgoffa. Os nad ydych yn talu o fewn saith diwrnod, rydych yn colli'r hawl i dalu bob mis ac mae'r cyfan yn ddyledus.
Os ydych eisoes wedi cael dau lythyr atgoffa ac wedi talu'r rhandaliadau
coll o fewn saith diwrnod ar ôl cael y llythyrau atgoffa, ac yn methu am y
trydydd tro.
Bydd y swm llawn sy'n weddill yn daladwy ar unwaith.
Ar ôl i chi golli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau, mae'n ofynnol i'r Cyngor, yn ôl y gyfraith, roi gwys am y gweddill, ynghyd â chostau, set £40.00 am y gwys a £20.00 am y gorchymyn atebolrwydd ar hyn o bryd.
Unwaith y mae gorchymyn atebolrwydd wedi ei gyflwyno, mae'n rhoi hawl i'r awdurdod:
Ond Medrwch hefyd wneud trefniadau gyda swyddfa Treth y Cyngor i dalu'r balans yn wythnosol/yn fisol cyn belled bod y swm yn un derbyniol.