Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Treth y Cyngor

 

Mae Treth y Cyngor yn dreth leol a godir ar bob eiddo domestig ac mae'n cwmpasu tair elfen ar wahân.

  • Tâl Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Tâl Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru
  • Tâl eich cyngor cymuned

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n casglu'r holl daliadau hyn. Mae'n cadw'r swm sy'n ddyledus i'r Cyngor ac yn talu symiau Awdurdod yr Heddlu a'r Cynghorau Cymuned unigol a gasglwyd ar eu rhan.

Mae'r swm yr ydych yn ei dalu mewn gwirionedd yn dibynnu ar y band y mae'ch eiddo wedi'i osod ynddo. Mae'r bandiau hyn yn amrywio o 'A i I' - A yw'r gost isaf ac I yw'r gost uchaf.

Mae'r cyfanswm sy'n ddyledus yn cwmpasu dwy ran, 50% mewn perthynas â'r eiddo a 50% mewn perthynas â'r perchennog. Mae'r hanner am yr eiddo yn daladwy dan unrhyw amgylchiadau ond gellir lleihau'r elfen bersonol os yw'r eiddo yn gartref i lai na dau o bobl. Os oes un unigolyn yn byw ar ei ben ei hun, caiff elfen bersonol y dreth sy'n daladwy ei haneru, ac os yw'r eiddo'n wag, nid yw'r elfen bersonol yn berthnasol.

Sylwer yn unol â deddfwriaeth Cymru bydd unrhyw eiddo yn Wrecsam sy’n wag a heb ei ddodrefnu, neu wedi ei adael heb ddodrefn am gyfnod o fwy na 6 mis yn gymwys i dalu 100% o’r gost.

Gwasanaeth Cwsmeriaid

Os oes gennych gwestiwn ar unrhyw fater yn ymwneud â Threth y Cyngor neu Drethi Busnes (ar wahân i Fandiau a Gwerth Trethiannol) ac os hoffech help a chyngor, gellir cysylltu â'r:

Prif Swyddog Cyllid a Pherfformiad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1WS neu dros y ffôn / ebost ar:

Sut caiff fy eiddo ei brisio?

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am brisio holl eiddo domestig Cymru a Lloegr ac mae'n gosod eich eiddo mewn un o naw band eiddo. Mae'r VOA yn asiantaeth annibynnol ac nid yw'n rhan o'r Cyngor. Mae'r VOA wedi cyfrifo gwerth eich band ar sail prisiau eiddo ar 1af Ebrill 2003. Gelwir hwn yn 'ddyddiad prisio'. Mae'r dyddiad gosod yn sicrhau bod pob eiddo yn cael ei asesu ar gyfnod penodol, gan sicrhau system decach i bawb.

Mae'r VOA yn cymryd i ystyriaeth maint, oedran, cymeriad a lleoliad eich eiddo a data gwerthiant o amgylch y dyddiad prisio i benderfynu ar y band cywir.

Os adeiladwyd eich eiddo ar ôl 1af Ebrill 2003, bydd y VOA yn gosod eich eiddo mewn band yn seiliedig ar beth fyddai ei werth ar y dyddiad hwnnw yn defnyddio data gwerthiant cymharol.

Mae gan bob band eiddo ystod o werthoedd.

Y bandiau ar gyfer Cymru yw:-

Band O I fyny at
A 0 44,000
B 44,001 65,000
C 65,001 91,000
D 91,001 123,000
E 123,001 162,000
F 162,001 223,000
G 223,001 324,000
H 324,001 424,000
I 424,001 +

Treth y Cyngor 2008/09

Treth y Cyngor 2008/09

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Treth y Cyngor 2008/09 - Fersiwn PDF 793Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cyswllt i

Taliadau Treth y Cyngor
Llythyr yr Arweinydd
Treth y Cyngor 07/08
Taliadau yn ol Band D
Newyddion
Sut Caiff Eich Arian Ei Wario
Taliadau yn ol Band A-I
Eich Hawliau
Os wyf angen help?
Gostyngiadau A Disgowntiau
Apelio
Gwybodaeth Treth y Cyngor
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint