Os oes angen ystafell neu le ychwanegol yn eich cartref arnoch chi neu unrhyw un sy'n byw gyda chi oherwydd anabledd, mae'n bosibl y gallech gael gostyngiad i'ch bil. Byddai'r gostyngiad hwn yn cael ei roi drwy osod eich cartref mewn band prisiad is. Os yw eich cartref ym Mand A, gallech nawr fod yn gymwys i gael gostyngiad. Cysylltwch â'r Cyngor am wybodaeth bellach, os teimlwch eich bod yn gymwys.
Os mai dim ond un oedolyn sy'n byw mewn eiddo, bydd disgownt o 25%. Bydd disgownt yn berthnasol i rai grwpiau o bobl gan gynnwys myfyrwr, nyrs-fyfyrwyr, rhai dan Hyfforddiant leuenctid a rhai sydd a nam meddyliol difrifol. Os ydych yn meddwl bod gennych hawl i ddisgownt, dylech gysylltu â'r Cyngor. Os ydych wedi cael disgownt, ac yn meddwl nad oes gennych hawl iddo mwyach, yna rhaid i chi hysbysu'r Cyngor o fewn 21 diwrnod. Gall methu â gwneud hynny arwain at gosb.
Bydd budd-dl Treth y Cyngor yn helpu pobl ar incwm isel i dalu eu biliau Treth y Cyngor. Er enghraifft, os ydych yn derbyn Cymorth Incwm, fel rheod nid oes raid i chi dalu Treth y Cyngor. Efallai fod gennych hawl i fudd-dâl os ydych yn gweithio ac os yw eich incwm yn isel o gymharu gyda'ch amgylchiadau. Cysylltwch â:
Mae gofyn talu Treth y Cyngor ar y rhan fwyaf o dai, ond bydd rhai yn cael eu heithrio ac ni fydd unrhyw Dreth y Cyngor i'w thalu arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys eiddo lle mai'r unig breswylwyr yw myfyrwyr neu bobl gyda nam meddyliol difrifol, ac eiddo gwag, sydd:
Os credwch y dylid eithrio eich eiddo, dylech gysylltu ag Is-Adran Treth y Cyngor yn Stryt y Lampint. neu ffonio (01978) 292031.
Mae gan Cyngor Wrecsam ddyletswydd i ddiogelu cyllid cyhoeddus mae'n ei ddefnyddio ac mae'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn ymarfer er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n briodol. Gall rannu gwybodaeth a ddarperir iddo â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cyllid cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.
Bob dwy flynedd mae gofyn i ni ddarparu manylion holl eiddo'r Dreth Gyngor i Swyddfa Archwilio Cymry, yn ogystal â'r unigolion sy'n atebol, y swm sy'n daladwy – gan gynnwys gostyngiadau, diystyru ac eithriadau er mwyn gallu cymharu gwybodaeth arall a ddarperir gan gyrff cyhoeddus eraill, yn arbennig y gofrestr etholwyr a chymdeithasau preifat.
Eleni rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn ymarfer paru ar draws cynghorau gogledd Cymru er mwy nodi pobl sy'n hawlio gostyngiad unigolyn sengl pan nad oes ganddynt hawl i'w dderbyn. Mae canlyniadau'r ymarfer hwn yn parhau i gael eu cwblhau ond rydym wedi canfod ceisiadau am ostyngiad unigolion sengl lle awgryma tystiolaeth bod mwy nag un oedolyn yn yr eiddo. Ym mhob un o'r achosion hyn byddwn yn ceisio adennill yr arian sy'n ddyledus.