Llythyr yr Arweinydd

Unwaith eto mae'r gyllideb eleni yn cael ei phennu dan amodau economaidd anodd sydd wedi bod gyda ni am rai blynyddoedd diwethaf.

Yn annatod mae'r sefyllfa economaidd sydd ohoni yn arwain at leihad yn yr arian ym mhocedi pobl, sy'n golygu bod rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy llym wrth gadw ein costau mor isel â phosibl, tra'n gwarchod ein gwasanaethau rheng flaen.

Unwaith eto mae'r cynnydd o 2.69% yn y Dreth Gyngor ymhlith yr isaf yng Nghymru, a bydd yn golygu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn aros ymhlith y dwsin o awdurdodau sy'n codi'r lleiaf o Dreth Gyngor yn Ynysoedd Prydain.

Rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r angen i ystyried gwasanaethau i'r rhai mwyaf bregus. Nid yn unig rydym ni'n diogelu ein hysgolion rhag toriadau am y seithfed flwyddyn yn olynol, byddwn yn darparu mwy o gyllid trwy'r gyllideb ddirprwyedig na'r hyn a argymhellir gan Lywodraeth Cymru. Bydd effaith y cynnydd trwy'r Grant Premiwm Disgyblion o £450 am bob disgybl sy'n derbyn cinio ysgol am ddim y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru yn arwain at ddosbarthu swm o tua £1.3 miliwn ychwanegol i'n hysgolion. Bydd Gofal Cymdeithasol i Oedolion hefyd yn derbyn cyllid ychwanegol i ategu'r arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd trwy adolygu a mireinio'r modd y darperir gwasanaethau.

Diolch i aeaf cymharol fwyn, mae wyneb y ffyrdd wedi goroesi'n gymharol dda. Serch hynny, clustnodwyd arian ychwanegol er mwyn parhau i unioni'r difrod yn deillio o'r gaeafau caled blaenorol a gwella cyflwr ein rhwydwaith ffyrdd yn gyffredinol. Mae Ffordd Gyswllt yr Ystad Ddiwydiannol ar fin cael ei chwblhau, a bydd hyn yn cael gwared ar broblemau fu gyda ni ers cyfnod maith. Rydyn ni'n rhagweld cynnydd yn nifer y busnesau yn yr Ystad yn dilyn gwella'r cysylltiadau ffyrdd, a fydd yn cynorthwyo i leihau ffigurau diweithdra.

Bydd gosod paneli solar ar 3000 o'n tai Cyngor yn gwella ein ôl troed carbon yn ogystal â lleihau biliau tanwydd llawer o'r trigolion. Gobeithir y bydd tenantiaid tai Cyngor eraill yn elwa o'r cynllun trwy ostyngiad i'w costau ynni yn dilyn darparu inswleiddio ychwanegol a gwella'r systemau gwresogi.

Gobeithiaf eich bod yn sylweddoli bod y Cyngor yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau, ond mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch gwasanaethau'r Cyngor.

Yn unol â'r blynyddoedd blaenorol mae'n rhaid i ni gynnwys y dreth sy'n ofynnol gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer ariannu'r gwasanaeth, ac mae taflen ar wahân ganddynt yn nodi manylion eu gwariant.

Y Cynghorydd Ron Davies
Arweinydd y Cyngor

yn ôl i'r brig