Mae'r Cynulliad wedi cyhoeddi manylion ailbrisiad cartrefi unigol at ddibenion bandiau Treth y Cyngor.
Dyma'r ailbrisiad cyntaf o eiddo domestig yng Nghymru ers i Dreth y Cyngor gael ei chyflwyno yn 1993 ac mae'r broses wedi cydweddu gwerthoedd tai â newidiadau yn y farchnad eiddo. Ailbrisiwyd eiddo ar 1 Ebrill 2003 a daw'r bandiau a'r prisiadau newydd i rym ar 1 Ebrill 2005.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n rhoi band i eiddo, ar y sail bod yr eiddo mewn cyflwr rhesymol ac ar werth yn wag ar 1 Ebrill 2003. Seiliwyd y gwerthoedd gwreiddiol ar gyfer rhestr 1993 ar werthoedd 1991. Isod, ceir bandiau 1993 a'r rhestr newydd arfaethedig ar gyfer 2005.
Bandiau |
Gwerthoedd 1993 O |
Gwerthoedd 1993 i |
Lluosogwyr |
Gwerthoedd 2005 O |
Gwerthoedd 2005 i |
|---|---|---|---|---|---|
| A | 0 |
30,000 |
6/9 |
0 |
44,000 |
| B | 30,001 |
39,000 |
7/9 |
44,001 |
65,000 |
| C | 39,001 |
51,000 |
8/9 |
65,001 |
91,000 |
| D | 51,001 |
66,000 |
9/9 |
91,001 |
123,000 |
| E | 66,001 |
90,000 |
11/9 |
123,001 |
162,000 |
| F | 90,001 |
120,000 |
13/9 |
162,001 |
223,000 |
| G | 120,001 |
240,000 |
15/9 |
223,001 |
324,000 |
| H | 240,001 |
+ |
18/9 |
324,001 |
424,000 |
| I |
|
|
21/9 |
424,001 |
+ |
Mae Band I yn fand newydd a grëwyd ar gyfer rhestr Treth y Cyngor 2005.
Mae'r lluosogwyr yn dal yr un fath â'r hen restr, ac eithrio Band I sy'n newydd ac wedi ei osod fel 21 nawfed. Defnyddir y lluosogwyr i gyfrif eich tâl, unwaith i'r Cyngor osod tâl ar gyfer Band D (e.e. os yw Band D yn £900, byddai eiddo Band A yn talu £600 a byddai eiddo Band H yn talu £1,800).
Amlinellir yr ystod newydd mewn taflen "Gwybodaeth a Chyfarwyddyd Pwysig - Ailbrisio ac Ailfandio Treth y Cyngor 2005". Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n anfon copi i bob ty yng Nghymru. Disgwylir i'r taflenni hyn, ynghyd â hysbysiad o'r bandiau, gyrraedd tai yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 13 Medi 2004.
Y disgwyliad cyffredinol oedd y byddai oddeutu 25% o dai'n symud i fyny, byddai 50% yn aros yr un fath ac y byddai 25% yn symud i lawr, gan mai hwn oedd y patrwm a ragwelwyd yn y dogfennau ymgynghori ar y bandiau newydd. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae 33% wedi mynd i fyny a dim ond 8% sydd wedi gostwng.
Yn Wrecsam, mae'r sefyllfa'n fwy amlwg eto, gyda 53% o eiddo'n symud i fyny i fandiau uwch, dim ond 1% yn mynd i lawr a 46% yn aros yn yr un band.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Neil Rogers "fod canlyniadau ymarfer y Cynulliad yn syndod mawr ac yn achosi cryn dipyn o bryder. Cydnabyddwyd bod Wrecsam yn dechrau dod yn lle mwy poblogaidd i fyw ynddo ond nid oedd y Cyngor yn disgwyl i fwy na hanner eiddo'r ardal symud i fand uwch, sy'n ail dim ond i Gaerdydd. Byddwn yn gofyn am drafod hyn ar frys gyda gweinidogion y Cynulliad, Dr Marek a Karen Sinclair, i archwilio'r casgliadau ac ystyried pa fesurau eraill y gellid eu cyflwyno er mwyn lleddfu'r cynyddiadau hyn i bobl Wrecsam. Bydd cymorth yn dal i fod ar gael ar gyfer y bobl hynny ar incwm isel drwy'r Budd-Dal Treth y Cyngor ac anogaf ddarpar hawlwyr i dderbyn y cymorth hwn".
Ni ellir penderfynu ar effaith lawn lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2005/06 ar hyn o bryd, gan fod pennu Treth y Cyngor yn dibynnu ar y canlynol:
Ni fyddwn yn gwybod effaith y ffactorau hyn am ychydig fisoedd. Bryd hynny'n unig, gall yr Awdurdod ystyried yr effaith ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae'r Cynulliad yn cynnig cyflwyno cynllun i gyflwyno'r newidiadau'n raddol ar lefel Cyngor. Mae hyn yn hanfodol os dymunwn osgoi cynyddiadau mawr mewn lefelau Treth y Cyngor yn y flwyddyn nesaf. Mae'r Cynulliad yn bwriadu lleddfu'r newid ar gyfer eiddo sy'n symud i fyny dau fand neu fwy hefyd. Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw fanylion pendant ynghylch y cynllun hwn.
Dywedodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyllidol, Mark Owen "y byddai gwaith yn mynd yn ei flaen gyda'r Cynulliad yn yr ychydig fisoedd nesaf i drafod yr agweddau technegol a fydd yn galluogi asesiad o effaith y swm y disgwylir i drethdalwyr ei dalu'r flwyddyn nesaf. Mae'r Cynulliad yn cynnig cyflwyno cynllun i gyflwyno'r newidiadau'n raddol ar lefel Cyngor. Mae hyn yn hanfodol er mwyn osgoi cynyddiadau mawr mewn lefelau Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf".
I helpu perchnogion tai, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi copi o'r rhestr lawn (rhyw 2,000 tudalen) yn nerbynfa swyddfeydd Stryt y Lampint.
Llinell Gymorth
Mae Asiantaeth Swyddfa Brisio'r Cynulliad wedi agor llinell gymorth i ddelio ag ymholiadau am fandiau newydd - 0845 600 1748 (cyfradd dalu leol). Mae'r llinellau ar agor o 08.30 tan 17.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae'n bosibl na fydd raid i chi apelio'n ffurfiol. Gallwch siarad â llinell gymorth y Swyddfa Brisio ar 0845 600 1748 os teimlwch fod y band yn anghywir. Mae'n bosibl y byddant yn gofyn i chi anfon tystiolaeth atynt i gefnogi eich achos a byddant yn ystyried y band a roddwyd i'ch eiddo wedyn.
Os ydych yn dal i anghytuno â band eich eiddo, gallwch apelio'n ffurfiol ond o 1 Ebrill 2005 yn unig.
| Atgynhyrchwyd â chaniatâd Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'r rhestr Treth y Cyngor hon yn hawlfraint y goron ond gellir ei hatgynhyrchu heb ganiatâd ffurfiol a thâl am ddefnydd personol neu fewnol. Ni ellir atgynhyrchu'r deunydd mewn unrhyw waith arall (boed yn gopi papur, yn electronig neu ffurf arall), ei drosglwyddo, ei ddosbarthu neu beri iddo fod ar gael ar unrhyw rwydwaith heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Swyddfa Bapur ei Mawrhydi (St Clements House, 2-16 Colegate, Norwich NR3 1BQ). Y Goron © 2004 |