Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Dyletswyddau'r Cynghorwyr

 

Dyletswyddau'r holl Gynghorwyr

Dylai gwahanu swyddogaethau gweithredol ac archwilio gyda gwaith Pwyllgor llai ffurfiol roi fwy o amser i bob Cynghorydd i ganolbwyntio ar ddatblygiad polisïau mwy manwl, yn lleol ac yn strategol ac i ymwneud â materion lleol.

Y Cynghorwyr fel Aelodau o'r Cyngor llawn yw'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol a bydd pob Cynghorydd yn cyflawni nifer o swyddogaethau rheoli strategol a chorfforaethol.

  • Penodi'r Bwrdd Gweithredol.

  • Penodi ar gyfer Pwyllgorau a chyrff allanol (ac eithrio'r rhai hynny a ddirprwywyd i'r Bwrdd Gweithredol i'w penderfynu).

  • Penderfynu ar gyfrifoldebau a chylch gorchwyl y Pwyllgorau.

  • Mabwysiadu'r Rheolau Sefydlog ar gyfer y Cyngor.

  • Gwneud trefniadau ar gyfer penodi Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig ac ystyried materion yn ymwneud ag unrhyw gamymddwyn.

  • Cymeradwyo graddfa Treth y Cyngor.

  • Ethol y Maer.

  • Penodi Arweinydd y Cyngor.

  • Penderfynu ar fframwaith y polisi ar gyfer y Cyngor trwy gymeradwyo'r prif gynlluniau strategol a restrir isod:-

    • Datganiad Strategaeth Gorfforaethol.

    • Cynllun Cymunedol (yn ofynnol o dan Gwerth Gorau).

    • Cynllun Perfformiad Wrecsam (yn ofynnol o dan Gwerth Gorau).

    • Cynllun Datblygu Unedol.

    • Cynllun Strategol a Gweithredol Tai

    • Cynllun Gwasanaethau Plant

    • Cynllun Gofal Cymdeithasol (anghenraid newydd - yn weithredol o 1/9/99)

    • Strategaeth Datblygiad Economaidd

    • Strategaeth Cludiant Integredig

Sylwer - bydd y rhestr hon yn cael ei monitro'n barhaol i adlewyrchu'r newidiadau mewn amgylchiadau, gofynion y llywodraeth ac anghenion y Cyngor.

Yn ogystal â hyn bydd pob aelod yn:

Cynrychioli eu cymuned a sicrhau bod barn y gymuned honno'n cael ei chynnwys ym mhroses benderfynu'r Cyngor h.y. pleidio achos cymuned.

Ymdrin â gwaith cymdeithasol unigol a gweithredu fel adfocad ar gyfer etholwyr wrth ddatrys cwynion neu bryderon penodol.

Mantoli'r buddiannau gwahanol a enwir, ac sy'n aml yn gwrthdaro, yn y ward a chynrychioli'r ward fel cyfanrwydd.

Eistedd fel aelodau o Bwyllgorau Sefydlog.

Barod i'w henwebu fel cynrychiolydd y Cyngor ar gyrff eraill priodol a datblygu arbenigedd yn gysylltiedig â'r cyrff hynny.

Dyletswyddau Pellach Aelodau Pwyllgor ADP

Adolygu polisi a datblygu argymhellion i'w hystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

Adolygu'r gwasanaeth a gyflawnir.

Ystyried argymhellion y Bwrdd Gweithredol ar gyfer y gyllideb.

Monitro ac archwilio perfformiad a phenderfyniadau'r Bwrdd Gweithredol.

Penodi'r Paneli Archwilio ac unrhyw grwpiau gwaith tasg a chwblhau, pennu a chydlynu eu rhaglenni gwaith.

Cynghori'r Adran Weithredol a chynnig argymhellion ar gyfer newid y cyllidebau ar sail adolygiadau o'r gwasanaethau.

Cynnig argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch y materion hynny yr ymgynghorwyd â hwy.

Dyletswyddau Pellach Aelodau'r Bwrdd Gweithredol

Llunio'r Datganiad Strategaeth Gorfforaethol a, maes o law, y cynllun Cymunedol, gan amlinellu amcanion strategol y Cyngor a'r blaenoriaethau polisi corfforaethol sydd i'w hargymell i'r Cyngor.

Llunio'r cynlluniau strategol sydd angen eu cymeradwyo gan y Cyngor.

Adolygu, datblygu a sefydlu polisi sydd heb ei neilltuo i'r Cyngor.

Cytuno ar yr adnoddau sydd i'w darparu i fodloni amcanion corfforaethol y Cyngor a dyrannu'r adnoddau hynny rhwng y gwasanaethau a'r blaenoriaethau yn unol â pholisi'r Cyngor.

Cytuno ar gyllidebau cyfalaf a refeniw ac ymdrin ag unrhyw gynnig am drosglwyddiad arian nas dirprwywyd i swyddog.

Cynghori'r Cyngor ynghylch cyrff allanol allweddol. (Cyflawnir y rhan fwyaf o gynrychiolaethau allanol gan yr aelodau anetholedig, neu swyddogion, fel y bo'n briodol).

Cytuno ar y rhaglen ar gyfer adolygu Gwerth Gorau.

Meithrin a chynnal perthynas gadarnhaol gyda sefydliadau partneriaethol

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint