Os ydych yn talu rhent a/neu dreth y cyngor ar eich cartref ac yn byw ar incwm isel efallai y bydd gennych hawl i Fudd-dal Tai a/neu Fudd-dal y Dreth Gyngor, sy’n golygu y gallech dalu llai am y biliau hyn.
Dim ond canllaw gyffredinol i’r budd-daliadau hyn yw’r wybodaeth hon. I drafod eich amgylchiadau a hawl unigol, cofiwch gysylltu â ni.
Ffoniwch yr Adran Budd-daliadau ar:
Tenantiaid preifat neu berchen-feddianwyr: (01978) 292032
Tenantiaid y Cyngor: (01978) 292033
Amserau agor yw: 8.45am i 5.30pm dydd Llun i ddydd Gwener
Ymwelwch â’ch Swyddfa Stad leol neu brif swyddfeydd y Cyngor:
Galw Wrecsam
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam
E-bost: housingbenefits@wrecsam.gov.uk