Atebion Teleofal i Fyw'n Annibynnol (01978 292075)

Mae’r Gwasanaeth Teleofal yn gyswllt ffôn, 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn rhwng eich cartref a Chanolfan Ymateb Teleofal

Fflat Arddangos Teleofal

Dod ag atebion Teleofal yn fyw ar gyfer bywyd annibynnol mewn amgylchedd cartref go iawn

Ymwelwch ar un o’n diwrnodau agored wythnosal neu wneud trefniant ar amser I’ch siwtho chi.

I gael amserau agor neu wneud ebost telecare@wrexham.gov.uk trefniant ffoniwch 01978 292066

Beth yw Teleofal?

Mae Teleofal yn wasanaeth all eich helpu i aros yn ddiogel yn y cartref a golygu bod modd galw am gymorth mewn argyfwng.

Gall Teleofal eich helpu i fyw’n annibynnol yn eich cartref drwy roi tawelwch meddwl bod modd galw rhywun yn awtomatig os bydd angen cymorth arnoch neu os bydd argyfwng.

Mae ystod o synhwyryddion Teleofal yn eich cartref yn ffordd anymwthiol o reoli risgiau i’ch iechyd a’ch diogelwch.

Darperir y Gwasanaeth Teleofal mewn partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chester Care.

Sut mae’r Gwasanaeth yn Gweithio?

Mae’r Gwasanaeth Teleofal yn gyswllt ffôn, 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn rhwng eich cartref a Chanolfan Ymateb Teleofal.

Gallwch siarad â gweithredwr hyfforddedig yn y Ganolfan Ymateb drwy bwyso’r crogdlws a ddarperir neu os caiff synhwyrydd Teleofal ei weithredu’n awtomatig caiff neges ei hanfon i’r Ganolfan Ymateb.

Yna bydd y gweithredwr yn cymryd y camau priodol, a allai gynnwys cynnig cyngor sylfaenol neu gysylltu ag aelod o’r teulu, y Gwasanaethau Brys neu drefnu i Wasanaeth Ymateb Brys Teleofal ymweld â chi.

Y Pecyn Teleofal Sylfaenol

Ar gael i unrhyw un sy’n teimlo fel pe baent yn agored i niwed ac sydd am wybod y bydd bob amser rhywun wrth law i gysylltu ag o os byddant am gael cymorth:

Crogdlws Personol

Gellir galw am gymorth o unrhyw le yn y cartref.

Canfodydd Mwg

Yn gwneud galwad larwm ar unwaith i’r ganolfan ymateb leol.

System fonitro Gwres Eithafolr

Mae hyn yn monitro am wres eithafol neu gynnydd sydyn mewn tymheredd.

Key Safe

I’w gwneud hi’n bosibl cael mynediad mewn argyfwng.

Botwm Galwyr Ffug (dewisol)

Am gymorth pan fydd dieithryn yn ceisio mynediad i’ch cartref.

System Fonitro Anweithgarwch (dewisol)

Yn tynnu sylw os na fydd unrhyw symud mewn cartref erbyn amser penodol.


Y Pecyn Teleofal Gwell:

Gall y Pecyn Teleofal Gwell fod ar gael os bydd asesiad yn dangos bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch gan Weithiwr Iechyd neu Ofal Cymdeithasol Proffesiynol e.e. Gweithiwr Cymdeithasol, Therapydd Galwedigaethol neu Nyrs.

Darperir synwyryddion ychwanegol yn y cartref ar sail eich anghenion unigol. Ymhlith rhai o’r enghreifftiau o sut y gallai’r Pecyn Gwell eich helpu fyddai os byddwch yn syrthio, os oes gennych epilepsi  neu os oes gennych broblemau gyda’ch cof.

Faint fydd yn ei gostio?

Caiff yr offer ei ddarparu a’i osod am ddim. Efallai  bydd ffi wythnosol fach am y Gwasanaeth Teleofal gan ddibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Mae’r gwasanaeth am ddim ar hyn o bryd i unrhyw un sy’n derbyn Budd-daliadau Tai, a gallai fod am ddim hefyd os ydych yn derbyn incwm isel.

Gwybodaeth Mwy

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os byddwch am drafod sut y gallech fanteisio ar y Gwasanaeth Teleofal ffoniwch:

01978 292075

ChesterCare
Octavian Centre
Minerva Close
Off Sovereign Way
Chester West Employment Park
Chester
CH1 4QL

yn ôl i'r brig