Fel rhan o ddyletswyddau tai a chynllunio statudol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gofynnir i ni wneud arolygon o gyflwr y stoc tai ac anghenion tai er mwyn llunio polisïau nawr ac yn y dyfodol. Cwblhawyd y ddau arolwg yn ddiweddar gan Fordham Research Ltd ar ran yr Awdurdod.
Ystyriodd yr adroddiad am gyflwr y stoc tai, a ddeilliodd o arolygiad o 1000 o eiddo sector preifat, broffil y stoc a goblygiadau polisi o ran:
Defnyddir y canlyniadau i sefydlu angen mewn perthynas â grantiau adnewyddu ac ailwampio oddi wrth y Llywodraeth Ganolog.
Mae’r arolwg o anghenion tai’n rhoi gwybodaeth gywir am weithrediad y farchnad tai leol gan gynnwys adnabod unrhyw anghyd-fynd rhwng cyflenwad a galw am dai. Mae’r adroddiad yn dadansoddi:
Casglwyd gwybodaeth ar ffurf arolygon wyneb yn wyneb â 1,400 o gartrefi yn y fwrdeistref sirol. Er nad oedd yr arolygon yn orfodol, anogwyd y cartrefi a ddewiswyd i gyfrannu a chymryd rhan yn yr arolwg, beth bynnag fo’u hamgylchiadau presennol neu statws deiliadaeth.
Defnyddir y wybodaeth i arwain y Strategaeth Tai a helpu i arolygu a gweithredu polisïau cynllunio tai fforddiadwy a geir yng Nghynllun Datblygu Unedol Wrecsam.
Asesiad o Anghenion Tai ac Arolwg o Gyflwr y Stoc
Mae’r ddau adroddiad ar gael i’w lawrlwytho yn y fformatiau canlynol:
Yn anffodus, nid yw’r dogfennau ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Os hoffech wybod pryd fydd y fersiynau Cymraeg ar gael, ffoniwch y Tîm Strategaeth Tai ar (01978) 315510.
Adroddiad Am Gyflwr Stoc Tai - fersiwn PDF 1.6Mb ![]()
Arolwg O Anghenion Tai - fersiwn PDF 2.6Mb ![]()
Ers comisiynu’r Asesiad Anghenion Tai mae’r farchnad dai a’r economi ehangach wedi newid yn sylweddol a chyhoeddwyd cyfarwyddyd newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan newid y ffordd o edrych ar anghenion tai. O ganlyniad, comisiynwyd adroddiad diweddaru ym mis Medi 09 i adlewyrchu’r newidiadau hyn ac i roi gwybodaeth ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol a Pholisi Tai Strategol CBSW. Mae’r adroddiad diweddaru’n dangos mai’r angen blynyddol clir am dai fforddiadwy yw 134 uned y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf.
Diweddariad ar yr Asesiad o Anghenion Tai
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho yn y fformatau canlynol:
Diweddariad ar yr Asesiad o Anghenion Tai - fersiwn PDF 415Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.