Tai Gofal Ychwanegol - Plas Telford LL14 3AU

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl hŷn i fyw’n annibynnol; os llwyddwn ni i gyflawni pethau yn y maes hwn yna bydd rhagor o bobl yn gallu parhau i fyw yn eu cartrefi yn hirach. Hefyd bydd pobl hŷn yn dweud wrthym a oeddent yn gallu cael y cyngor, y cymorth a’r gofal yr oedd arnynt eu hangen. (Cynllun y Cyngor, Rhan 1 2009-2012).

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Rydym yn ceisio gwneud hyn ac un ffordd o wneud hynny yw Tai Gofal Ychwanegol. Trwy ddarparu Tai Gofal Ychwanegol yn y Fwrdeistref bydd y fflatiau modern, diweddaraf un, gydag un a dwy ystafell wely, ar gael i’w rhentu a’u prynu (prydles cyfnod hir). Fe gânt eu hadeiladu ymysg nifer o gyfleusterau er mwyn i bobl allu byw’n annibynnol a pharhau i fod â rhan ym mywyd eu cymunedau.

Ar hyn o bryd rydym yn llunio ein cynllun cyntaf, Plas Telford, ar gyfer pobl hŷn (dros 55 oed) yn Wrecsam ar y cyd â Chymdeithas Tai Clwyd Alun, er mwyn iddo fod yn barod erbyn hydref 2011.

Bydd prif nodweddion y cynllun yn cynnwys:

  • Tai sydd wedi eu lleoli’n hwylus ar gyfer y cyfleusterau lleol gan cynnwys fferyllydd, siop lleol, canolfan hamdden a chysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus i Wrecsam.
  • 54 o fflatiau un a dwy ystafell wely i’w rhentu neu eu prynu
  • Bwyty
  • Caffi Cymunedol
  • Ystafell therapi a thrin gwallt
  • Sinema
  • Ystafell hobïau
  • Llyfrgell/Ystafell TG
  • Gall cadeiriau olwyn fynd iddynt
  • Gerddi wedi eu tirlunio
  • Ystafelloedd cawod â lloriau gwastad
  • Ystafelloedd ymolchi ar wahân â chymorth
  • Ystafell golchi dillad
  • Ystafell i westeion
  • Maes parcio preifat
  • Stordy Cadw Bygis Trydanol
  • Lifftiau at bob llawr
  • Teleofal

I gael gwybod rhagor am y digwyddiad newydd, cyffrous hwn neu i wneud cais gallwch gysylltu â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn ar 0800 1835757, Ebost enquiries@clwydalyn.co.uk, Gwefan www.pennaf.co.uk.

Lluniau

Chliciwch ar y lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu y chwith a bysellau saeth Hawl ar eich bysellfwrdd, i weld lluniau eraill.


Newyddion

Gwybodaeth Bellach

Taflen Plas Telford - fformat PDF 1.4Mb

Cynlluniau llawr fflatiau (Saesneg yn unig) - fformat PDF 149Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Cyswllt

Rheolwr Prosiect Gofal Ychwanegol a Phobl Hŷn, ebost: housing@wrexham.gov.uk.

Cysylltiadau Defnyddiol

Cysylltiadau Defnyddiol Allanol

Pennaf

“The first choice provider of housing and related services.”

Clwyd Alyn

“Quality Homes, Quality Partnerships.”

Wates

“As one of the UK’s leading affordable housing construction services providers, we have a major impact on communities throughout the UK. Building or refurbishing some 26,000 homes every year, working through more than 50 affordable housing frameworks, we have exceptional expertise and experience across a wide range of projects including refurbishment, supported living, mixed-use, mixed-tenure, maintenance and PFI.”

AVOW

yn ôl i'r brig