Os oes angen codi safon eich ty arnoch, neu ei wneud yn fwy addas ar gyfer eich anghenion, gallech fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol i'ch cynorthwyo i wneud hynny. Mae'r adran hon yn dweud wrthych am y gwahanol fathau o gymorth ariannol sydd ar gael, fel y gallwch weld a ydych yn gymwys a sut y mae cael cymorth.
Mae amrywiaeth o gymorth ariannol ar gael er mwyn i berchnogion wella eu tai. Yn gyffredinol mae'r cymorth ar gael i bobl hyn a'r rheiny sy'n agored i niwed yn y gymuned.
Mae gwelliannau tai mewn cynlluniau trwsio ar gyfer grwpiau ar gael o fewn ardaloedd adnewyddu tai penodol. Gwneir y gwelliannau ar y cyd ag amrywiaeth o gynlluniau gwella amgylcheddol gyda'r bwriad o adfywio cymunedau a sicrhau dyfodol hirdymor yr ardaloedd.
Wedi'i gynllunio i alluogi perchnogion i fanteisio ar welliannau i'w cartref gan ddefnyddio eu cyllid eu hunain neu drwy gynllun benthyca a weinyddir gan y Cyngor mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Gwella Tai.