Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Garejys

 

Mae dros 2,000 o garejys yn y Fwrdeistref sy’n eiddo i’r Gwasanaethau Tai.  Mae’r rhain ar gael i’w rhentu i denantiaid y cyngor a thenantiaid eraill.

I beth allaf ddefnyddio’r garej?

Gellwch ddefnyddio’r garej i gadw cerbyd modur preifat yn unig.

Faint mae hynny’n ei gostio?

Am y flwyddyn o Ebrill 2008 – Mawrth 2009, y rhent wythnosol i denantiaid y cyngor yw £5.20 yr wythnos ac mae’n daladwy’n wythnosol gyda rhent eich eiddo.  I denantiaid nad ydynt yn byw yn nhai’r cyngor, mae’r rhent yn £5.64 yr wythnos (gan gynnwys TAW) a bydd yr Adran Gyllid yn anfon anfoneb atoch bob tri mis.

Sut allaf ddarganfod a oes garej ger fy nghartref?

Cysylltwch â’r swyddfa dai leol.

Sut allaf ymgeisio am garej?

Gellwch naill ai lawrlwytho’r ffurflen gais neu nôl ffurflen gais o’ch swyddfa dai leol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mewn rhai ardaloedd, nid oes llawer o alw am y garejys ac efallai y cewch gynnig garej ar unwaith.  Os ddim, cewch eich rhoi ar y rhestr aros.  Caiff garej wag ei chynnig i’r ymgeisydd sydd wedi bod ar y rhestr aros hiraf i ddechrau ac yna i’r ymgeisydd hiraf nesaf nes bo rhywun yn ei derbyn.  Os na fydd unrhyw un o denantiaid y cyngor yn dymuno cael y garej, bydd ymgeiswyr nad ydynt yn denantiaid y cyngor yn cael eu hystyried yn nhrefn dyddiadau eu ceisiadau.  Rydym yn rhoi blaenoriaeth i denantiaid y cyngor dros ymgeiswyr eraill.

Pan gewch garej, byddwn yn cysylltu â chi trwy lythyr i gadarnhau’r dyraniad ac i roi Amodau’r Denantiaeth – Garejys i chi ac mae’n rhaid i chi ei arwyddo i ddangos eich bod yn cytuno.  Ar ôl ei arwyddo, gellwch gasglu allweddi’r garej.

A allaf gael garej arall, a sawl un allaf ei chael?

Gallwch, cyn belled â’ch bod wedi llwyddo i dalu’ch taliadau rhent.  Mae gennych hawl i gael hyd at ddwy garej os oes llawer o enwau ar y rhestr aros a hyd at 3 os yw’r galw am garejys yn isel. 

Beth os ydw i’n cael anhawster talu rhent am y garej?

Cysylltwch â’ch swyddfa dai leol i gael cyngor.  Os methwch â gwneud hyn, byddwch yn colli tenantiaeth eich garej.

Beth am waith trwsio?

Y Gwasanaethau Tai sy’n gwneud gwaith trwsio.  Sylwer y codir tâl arnoch am unrhyw ddifrod a achosir yn ddamweiniol, yn fwriadol neu oherwydd esgeulustra o’ch rhan chi neu unrhyw aelodau o’ch cartref, ymwelwyr, anifeiliaid anwes neu gontractwyr a huriwyd gennych.

Beth os ydw i am ddod â thenantiaeth y garej i ben?

Rhaid i chi roi wythnos o rybudd i ni yn ysgrifenedig.  Gellwch naill ai lawrlwytho ffurflen derfynu neu hysbysu eich swyddfa dai leol yn ysgrifenedig.  Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau dyddiad y terfyniad a’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd allweddi.

Dogfennau

Ffurflen Gais

Ffurflen Gais Garejys - Fformat PDF - 91Kb

Ffurflen Gais Garejys - Fformat Word - 60Kb

Ffurflen Gais Garejys - Fformat Testun Plaen - 707Kb

Amodau'r Denantiaeth

Amodau'r Denantiaeth - Fformat PDF - 71Kb

Amodau'r Denantiaeth - Fformat Word - 56Kb

Amodau'r Denantiaeth - Fformat Testun Plaen - 704 Kb

Ffurflen Derfynu

Ffurflen Derfynu - Fformat PDF - 134Kb

Ffurflen Derfynu - Fformat Word - 105Kb

Ffurflen Derfynu - Fformat Testun Plaen - 1.4Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 
English
 

Cyswllt i

Tai Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint