Caiff Grant Tai Cymdeithasol (SHG) ei roi i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r nod o ddarparu tai newydd fforddiadwy ar rent neu berchenogaeth cost isel.
Mae SHG yn talu am gynlluniau tai sy’n ateb anghenion a blaenoriaethau lleol fel y nodwyd gan awdurdodau lleol.
Mae modd defnyddio SHG i ddarparu tai ar rent neu berchenogaeth cost isel trwy adeiladu o’r newydd neu ddefnyddio adeiladau presennol.
Mae modd defnyddio SHG i gefnogi:
Yn Wrecsam, mae Grant Tai Cymdeithasol wedi cynorthwyo trwy ddatblygu nifer o ddatblygiadau tai newydd ynghyd â chynlluniau tai â chymorth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu a materion iechyd meddwl.
Mae Grant Tai Cymdeithasol hefyd wedi cynorthwyo talu am gynllun Gofal Ychwanegol cyntaf Wrecsam ym Mhlas Madoc.
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gweithredu Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF) a chaiff ei defnyddio i dalu am brosiectau a rhaglenni amrywiol yng Nghymru, gan gynnwys prosiectau tai cymdeithasol.
Caiff arian i ddatblygu rhagor o dai cymdeithasol ei neilltuo i bob awdurdod lleol a chaiff Cymdeithasau Tai eu gwahodd i gynnig am y cymorth ariannol, sydd ar gael i brynu eiddo newydd, gwerthu tir a Chymorth Prynu.
Mae SCIF eisoes wedi talu am nifer o eiddo newydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gan gynnwys eiddo yn Llannerch Banna a Gerddi Victoria yn Wrecsam.