Cyngor a chymorth gyda gwaith atgyweirio ac addasu ar gyfer pobl hyn
ac/neu perchnogion tai sydd ag anabledd a thenantiaid preifat.
Foyer Wrecsam,
Ffordd Crescent,
Wrecsam
LL13 8HF
Ffôn: 01978 268120 Ffacs: 01978 268121
Bwriad Gofal a Thrwsio Wrecsam ydi cynnig cymorth i'r henoed a rhai sy'n dioddef o anabledd wrth ddarparu cyngor yn rhad ac am ddim a chymorth ymarferol parthed gwelliannau, atgyweirio ac addasu eu cartrefi er mwyn eu galluogi i fod yn annibynnol, a byw yn gysurus a diogel.
Mi fedrwn:
Drafod a chynnig cyngor ynglyn â'r modd gorau o dalu am y gwaith sydd angen ei gwblhau
Gynnig cymorth wrth lenwi ffurflenni am grantiau, budd-daliadau, benthyciadau, ceisiadau yswiriant a.y.b.
Gysylltu gyda adran grantiau yr awdurdod lleol, gwasanaethau cymdeithasol, yr Asiantaeth Budd daliadau ac asiantaethau eraill
Gynnig cymorth i ddewis adeiladydd dibynadwy
Gynnig cymorth a chefnogaeth tra mae' gwaith yn mynd ymlaen er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu'n gyson
Sicrhau eich bod yn fodlon gyda'r gwaith cyn i'r adeiladydd dderbyn ei dâl
Gynnig cymorth i drefnu symudiad i lety dros dro tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau, os dymunir
Gynnig cymorth ynglyn â budd daliadau er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich hawliau llawn
Eich rhoi mewn cysylltiad â chymdeithasau eraill os nad gwaith atgyweirio/addasu ydi'r ateb gorau i'ch anghenion chwi.
Cofiwch nad oes unrhyw ymrwymiad i chwi dderbyn y cyngor sydd ar gael. Swyddogaeth gofal a thrwsio yw cynnig cymorth ar bob datrysiad posibl i'ch cynorthwyo i benderfynu beth sydd orau i chwi.
Rheolir Gofal a Thrwsio Wrecsam gan Gymdeithas Tai Ty Glas a chefnogir yn ariannol gan:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Gofal a Thrwsio Cymru
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn
Cymdeithas Tai Clwyd
Cymdeithas Tai Wales & West