Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref (HEES)Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) sy'n ariannu'r Cynllun Effeithlonrwydd
Ynni yn y Cartref (HEES). Mae'n darparu grant o hyd at £2,700 i
wneud eich cartref yn gynhesach, yn fwy ynni effeithiol ac yn fwy diogel.
Bydd HEES yn canolbwyntio ar y bobl sy'n wynebu'r peryglon iechyd mwyaf
- sef pobl hyn. pobl gyda phlant o dan 16 oed a rhai sy'n anabl neu'n
sâl iawn.
Penodwyd yr Eaga Partnership i redeg y cynllun ar ran y Cynulliad.
Targedwyd y cynllun at deuluoedd, sy'n derbyn rhai budd-daliadau, allai
fod angen cymorth i gadw'n gynnes a diogel.
Rhannwyd y cynllun yn ddwy; sef HEES:
HEES ar gyfer teuluoedd gyda phlant o dan 16 oed.
HEES Plws teuluoedd un rhiant gyda phlant o dan 16, pobl dros 60 oed a'r
rheiny sy'n anabl neu'n sâl iawn.
Mae'r Cynulliad wedi cydnabod fod pobl dros 60 oed, teuluoedd un rhiant
a phobl sy'n anabl neu'n gronig sâl ac ar incwm isel yn wynebu problemau
arbennig. Dyna pam mae'n darparu cymorth ychwanegol ar ffurf HEES Plws.
Anelwyd y cynllun yn benodol at bobl sy'n berchen eu cartrefi a rhai sy'n
rhentu tai gan landlordiaid preifat, gan mai dyma'r grwpiau sy'n cynnwys
y nifer fwyaf o bobl sy'n wynebu problemau dyrys.
Ni fyddwch yn gorfod talu unrhyw beth cyn belled bod cost y gwaith yn dal o fewn y grant cymwys.
Fe drefnwn fod cwmnïau profiadol lleol, wedi'u cofrestru gyda ni, yn gwneud y gwaith.
Bydd un o'n harolygwyr yn galw heibio i esbonio'r cynllun, eich helpu i lenwi'r ffurflenni a phennu pa fesurau sy'n addas ar gyfer eich cartref.
Gofynnwch am brawf identiti bob tro byddwn ni, neu un o'n cynrychiolwyr,
yn ymweld â'ch cartref. Fe ofynnwn i chi am brawf eich bod yn hawlio
budd-dâl neu rywbeth sy'n nodi'ch oedran. Bydd yn rhaid i chi lofnodi
ffurflen gais yn cadarnhau eich bod am i ni wneud y gwaith. Gallwn ateb
unrhyw gwestiynau fydd gennych am y Cynllun pan ymwelwn â'ch cartref.
Byddwn yn defnyddio system cyfrinair er mwyn eich diogelu. Cofiwch ddefnyddio'r
cyfrinair a gytunwyd bob amser.
Ein nod yw trefu gwaith o'r safon uchaf posibl a byddwn yn archwilio cyfran
o'r gwaith a wneir er mwyn sicrhau hynny.
Mae'n bosibl bydd yr isod yn gallu hawlio grant o hyd at £1500 o dan yr HEES:
Deiliaid cartrefi sy'n derbyn Credyd Treth Teluoedd mewn Gwaith (cyfanswm incwm hyd at £11250 cyn treth)
Deiliaid cartrefi gyda phlentn o dan 16 sy'n derbyn un neu ragor o'r budd-daliadau isod:
Cymhorthdal Incwm
Budd-dâl Tai
Budd-dâl Treth Gyngor
Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Incwm
Bydd HEES yn darparu pecyn inswleiddio a gwresogi wedi'i deilwrio ar gyfer anghenion pob cartref, yn cynnwys mesurau addas o'r rhestr isod.
Gwresogyddion ystafell nwy gyda thermostat
Gwresogyddion stôr trydan
Siaced tanc dwr poeth
Cyngor ynni
2 fwlb ynni isel
Ffoniwch Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref (HEES) â Freefone 0800 316 2815 i ffurflen cais.
Yn ogystal â mesurau'r HEES, gall HEES Plws hefyd gynnig systemau
gwresogi canolog trydan neu nwy.
Mae'n bosibl bydd yr isod yn gallu hawlio grant o hyd at £2700 o
dan HEES Plws:
Cymhorthdal Incwm
Budd-dâl Tai
Budd-dâl Treth Gyngor
Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Incwm
Lwfans Gweini
Lwfans Byw i'r Anabl
Yn ogystal â mesurau'r HEES, gall HEES Plws hefyd gynnig systemau gwresogi canolog trydan neu nwy.
Os ydych dros 60, berchen eich cartref a ddim yn hawlio budd-dâl, yna fe allech fod yn gymwys i gael grant o 25% tuag at gost mesurau inswleiddio, hyd at uchafswm o £375.
Os ydych dros 60 oed ac yn byw mewn ardal arbennig, fe allwn gynnig mesurau diogelwch megis cloeon drysau a ffenestri (cyllidwyd gan y Swyddfa Gartref a'r Cynulliad). Holwch i weld os ydych yn byw mewn ardal gymwys. Fe allwn helpu i drefnu'r pecyn gorau ar eich cyfer.
Ffoniwch Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref (HEES) â Freefone 0800 316 2815 i ffurflen cais.