Mân waith trwsio i'r perchennog ty hyn ac anablFoyer Wrecsam, Ffordd Crescent,
Wrecsam
LL13 8HF
Ffôn: 01978 268120
Ffacs: 01978 268121
Mae Gofal a Thrwsio Wrecsam yn ceisio helpu pobl hyn a phobl ag anabledd trwy gynnig cyngor a chymorth ymarferol o ran gwaith trwsio ac addasu.
Mae'r Gwasanaeth Person Handi ar gael i bobl dros 60 a/neu bobl gydag anabledd, ac maw'n cynnig y canlynol:
Gwaith coed cyffredinol
Mân waith plymio
Rhoi gwydr newydd ar ffenestr
Gosod cadwyn ddiogelwch neu glo
Atal drafft o gwmpas drws
Gosod tapiau lifer
Trwsio ffens neu glwyd
Nid yw rhestr hon yn cynnwys popeth. Cysylltwch â'r swyddfa am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Yn anffodus, ni ellir ystyried unrhyw waith fel a ganlyn:
Unrhyw waith sy'n ymwneud â'r gwasanaeth nwy
Unrhyw waith trydanol ar wahân i waith syml iawn (fel newid ffiws neu blwg)
Garddio
Peintio ac addurno.
Darperir y Gwasanaeth Person Handi yn rhad ac am ddim ar y dealltwriaeth y gwnewch chi gytuno i dalu am gost y deunyddiau a ddefnyddiwyd, er byddwn yn falch o dderbyn unrhyw roddion. Ar rai achlysuron fe ellid cael arian i dalu am gost y deunyddiau - cysylltwch â Gofal a Thrwsio Wrecsam am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Efnogir y Gwasanaeth Person Handi gan:
Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Nationwide Foundation
Foyer Wrecsam,
Ffordd Crescent,
Wrecsam
LL13 8HF
Ffôn: 01978 268120 Ffacs: 01978 268121
Am wybodaeth bellach ynghylch budd-daliadau ar gyfer pobl hyn neu bobl ag anableddau, ymwelwch â'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.