Cartrefi Uwchben Siopau (CUS)

Ers llawer blwyddyn llwyddwyd i addasu lle heb ddigon o ddefnydd arno mewn adeiladau masnachol yn Wrecsam at ddefnydd preswyl. Yn wreiddiol cyfyngwyd y rhain i ganol tref Wrecsam ond wedyn cafodd hyn ei ymestyn i Gynlluniau Strategol yn ardaloedd y Waun a Chefn Mawr.

Polisi

Bydd Grant ar gael i berchenogion eiddo masnachol ynghanol tref Wrecsam, canol y Waun a Chefn Mawr ac unrhyw gynllun strategol arall i’w benderfynu gan y Cyngor. Rhaid i’r cynllun gydymffurfio â safonau gofod gofynnol a gytunwyd gan y Cyngor.

Cymhwyster

Perchenogion adeiladau masnachol ar gyfer addasu lle nad yw’n cael ei ddefnyddio at ddefnydd preswyl ar hyn o bryd ac sydd o fewn terfyn y cynllun perthnasol.

Amodau

Bydd cyfnod amodol o 5 mlynedd yn berthnasol ar ôl cwblhau’r cynllun.

Cysylltwch â

Is-Adran Grantiau
Adran Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU

Ffôn: 01978 315300
Ffacs: 01978 315580
Ebost: housing@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig