Fy Nghais am Grant

Canllaw cam wrth gam i'ch Cais am Grant Tai

Yn y diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bod yn gyfrifol am roi grantiau i wella amodau byw perchnogion/preswylwyr, tenantiaid a phobl anabl yn ardal Wrecsam.

Cynhyrchwyd y daflen hon i ddarparu gwybodaeth glir am grantiau tai. Mae'n amlinellu'r broses o'r ymholiad cyntaf i gwblhau'r gwaith.

Ymholiad Cyntaf

  • Ymholi ynghylch y grant
  • Anfonwch eich gwybodaeth ar ffurflen ymholiad am grant
  • Byddwn yn blaenoriaethu'r ffurflen ac yn dychwelyd eich ffurflen ymholiad atoch
  • Os nad yw trwsio/addasu'n ateb, gallwn gysylltu chi â sefydliadau eraill a allai helpu
  • Byddwn yn eich rhoi ar y rhestr aros ac yn anfon cydnabyddiaeth atoch a nodi eich blaenoriaeth ar y rhestr
  • Rhown wybod i chi o'ch sefyllfa o ran cael grant

Ffurflen Gais

  • Bydd y Swyddog Grant yn ymweld â chi a bydd eich eiddo'n cael ei arolygu. Yna byddwch yn derbyn ffurflen gais.
  • Gall y Swyddog Grant eich cynorthwyo i gwblhau'r ffurflen hon. Gall Gofalu a Thrwsio Wrecsam gynnig cymorth i chi os ydych yn fwy na 60 oed a/neu'n anabl.
  • Dychwelir y ffurflen atoch a chyflawnir prawf moddion i benderfynu p'un ai oes angen i chi gyfrannu at y cynllun.
  • Byddwch yn cael gwybod am y cyfraniad fydd angen i chi dalu ar fonyn ateb er mwyn ichi nodi a ydych am barhau â'r cais.
  • Ar yr adeg hon, cewch wybod am ofynion y cais llawn. Os dymunwch, gallwch gyflogi:
    a ) asiantaeth dechnegol y Cyngor i ddarparu cynlluniau, amcangyfrifon, adroddiadau, arolygon statudol o waith a gynorthwyir gan grant ac awdurdodi taliadau; neu
    b) asiant preifat o'ch dewis chi. Rhaid cadw at y Côd Ymarfer. Mae copi ar gael ar gais.
  • Yn gyffredinol, bydd y grant yn talu am y gwasanaethau uchod. Fodd bynnag, ni thelir y grant os dechreuwch ar y gwaith cyn i'r grant gael ei gymeradwyo.
  • Anfonir Amserlen o'r Gwaith atoch a'ch asiant preifat neu'r asiantaeth dechnegol fewnol.

Dechrau ar y Gwaith Adeiladu

  • Byddwn yn darparu cymorth a chefnogaeth tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen fel eich bod yn gwybod beth sy'n digwydd.
  • Byddwn yn sicrhau eich bod yn fodlon â'r gwaith cyni'r adeiladwr gael ei dalu.

Ein hymroddiad i chi

  • Ymweld ag 80% o'r holl grantiau tra bod ygwaith yn mynd yn ei flaen bob 15 diwrnod gwaith.
  • Cyflawni archwiliad ar gyfer gwaith anragweladwy o fewn 24 awr o dderbyn cais (gweler archwiliadau safle).
  • Cyflawni archwiliadau ar gyfer gwaith arall e.e. toeon, lloriau, ayb.
  • Cyflawni arolygiad dros dro a therfynol o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn cais.
  • Sicrhau y cyhoeddir 80% o dystysgrifau am daliadau dros dro o fewn 5 diwrnod gwaith o'r archwiliad.
  • Sicrhau y cyhoeddir 80% o'r tystysgrifau ar gyfer y tâl terfynol ofewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn cytundeb o'r cyfrifon terfynol gan fesurwyr meintiau.

Grantiau sydd ar gael:

 Fy Nghais am Grant

Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:

Fy Nghais am Grant - Fersiwn PDF 448Kb 

To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Download the free Acrobat reader from the Adobe website

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Accessible Adobe® Reader.

Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ar ôl i chi ddarllen y llyfryn hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Is-Adran Grantiau
Adran Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU

Ffôn: 01978 315300
Ffacs: 01978 315580
Ebost: housing@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig