Y WaunBu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn llwyddiannus yn ddiweddar wrth sicrhau arian ychwanegol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer grantiau tai yn Ardal Gadwraeth Tref y Waun. Mae tri math o grant ar gael:
Mae'r Flaengaredd Trefi Bychain a Phentrefi yn rhan o strategaeth Cymru gyfan gan Asiantaeth Datblygu Cymru i gynorthwyo adfywio economi wledig. Dynodwyd y Waun ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam fel lleoliad 'Lefel Tri' ym mlwyddyn llywio'r flaengaredd. Mae'r WDA felly wedi nodi bod angen cynnal a mwyhau potensial economaidd busnesau yn y Waun a Dyffryn Ceiriog. Mae busnesau'n cynnal mesurau a bydd dargadw'r gymuned wledig yn llwyddo i wneud hyn trwy ystod o ffynonellau grantiau. Cafwyd hyn yn dilyn mynegiadau o bryderon gan Aelodau Lleol, busnesau a'r gymuned oherwydd y dirywiad economaidd cyffredinol yn yr ardal hon.
Mae sawl ffactor sydd wedi cyfrannu at ddirwyiad y Waun. Mae un yn cynnwys yr alwad annerbynniol ar ddarpariaeth lleol ar gyfer poblogaeth y dref. Un arall yw'r anallu i fanteisio ar ymweliadau twristiaid i ganol y dref, er gwaethaf harddwch a chymeriad sylfaenol y bensaernïaeth na wneir yn fawr ohono ac agosrwydd at atyniadau twristiaeth eraill, megis y castell a'r gamlas. Mae newid llwybr y ffordd drafnidiaeth hefyd yn ffactor, hefyd wrth gwrs yr economi wledig sy'n brwydro'n galed.
Mae cefnogaeth y Cyngor yn hanfodol gyda'r flaengaredd hon. Canol tref y Waun yw prif graidd masnachol yr ardal hon ac fe'i hystyrir yn ganolfan siopa bwysig i'r gymdogaeth gan y Cyngor. Hefyd mai lleoliad o fewn yr Ardal Gadwraeth. Mae penseiri nodedig megis Augustus Pugin ac Eric Gill wedi dylanwadu ar edrychiad y dref, sydd â chymeriad cryf yn seiliedig ar geinder Georgaidd, crandrwydd dinesig Fictoraidd ac afiaith Edwardaidd.
Oherwydd cyfuniad o ffynonellau grantiau ac mae treftaedaeth yn ffactor allweddol, bydd Ardal Gadwraeth y Waun yn cael y sylw cyntaf. Mae dros 70 eiddo yn Ardal Gadwaeth y Waun. Mae astudiaethau rhagarweiniol diweddar o du allan i eiddo wedi nodi sawl problem ffiesegol. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod dirywiad toeau a ffasadau'n broblem arwyddocaol, ynghyd â cholli drysau a ffenestri traddodiadol a thynnu simneiau. Problem arall yw colli nodweddion traddodiadol adeiladau, sy'n lladd cymeriad cryf y dref. Anfonwyd Arolwg Cyflwr Adeiladau i'r holl drigolion yr effeithir arnynt, masnachol a preswyliol yn yr ardal. Derbyniwyd ymateb brwdfrydig, gyda thros 50% hyd yn hyn.
Gyda chefnogaeth Grantiau Adnewyddu Tai yr Awdurdod Lleol, gellir targedu eiddo pobl sydd ar incwm isel. Oherwydd bod gan y Waun boblogaeth hyn sy'n fwy na'r arfer, y grwp hwn yw'r un mwyaf tebygol o gael y fantais fwyaf o ganol y dref.
Mae nifer sylweddol o eiddo yng Nghanol Tref y Waun ar les. Bydd y grant landlord o gymorth i rwystro dirywiad pellach i'r eiddo hyn.
Mae'r Arolwg Cyflwr Adeiladau wedi nodi bod rhai lloriau gwag uwchben siopau canol y dref yn bodoli ac mae perchnogion wedi mynegi eu bod yn fodlon eu trosi i fod yn anheddau preswyliol. Bydd hyn yn cynorthwyo diogelwch yr eiddo a mwy o incwm rhent ar gyfer perchnogion siopau.
Mae'n bosibl gall gwariant cyfartaledd amrywio o symiau bach o oddeutu £10,000 hyd at dros £30,000, gyda chyllid cyfatebol o'r sector preifat ac asiantaethau eraill megis y WDA a threfniadau cynllun trefi CADW. Bydd CADW yn enwedig, yn sicrhau'r agweddau cadwraeth nad ydynt yn gymwys dan yr adnewyddu. Bydd grantiau landlordiaid a HARP yn cael eu gweithredu i sicrhau adnewyddiad cydymdeimladol o'r eiddo.
Mae nifer o'r eiddo ar y stryd yn arddangos ystod o broblemau. Gellir mynd i'r afael a hyn gyda chyfuniad o becynnau cymorth grant a fydd yn caniatáu i gynlluniau adnewyddu cynhwysfawr, ond yn parchu cymeriad eiddo mewn Ardal Gadwraeth ddynodedig fynd ymlaen. Bydd hyn yn gwella ansawdd yr amgylchedd adeiladedig yn fawr trwy godi lefelau'r grant i lefel uchel - hyd at 80%. Bydd hyn yn cynorthwyo busnesau sy'n bodoli'n barod ac yn codi'r galw am eiddo a busnesau newydd.
Cyfeirwyd grantiau adnewyddu tai'r Awdurdod Lleol tuag at Stryd y Parc, Rhiwabod ers 1997/98. Yn y ddwy flynedd hyn, mae tri eiddo wedi cael eu adnewyddu'n llwyr, gan fanteisio ar grantiau adnewyddu ac arian Cynllun Trefi (dan y prosiect partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a CADW).
Mae Stryd y Parc yn cynnwys adeilad porthdy a phedwar bloc o fythynod ystad unffurf yn dyddio, mae'n debyg o c1840. Yn wreiddiol, roedd pob bloc yn cynnwys chwe uned fechan. Nawr mae pedwar ty ym mhob bloc. Mae'r holl eiddo yn adeiladau rhestredig Gradd II ac wedi'u lleoli yn Ardal Gadwraeth Rhiwabon.
Roedd astudiaeth a wnaed yn 1996 yn canolbwyntio ar broblemau ffisegol eiddo ar Stryd y Parc. Roedd hyn yn dilyn mynegiadau o bryder gan drigolion lleol, yr Aelod Lleol a grwpiau cadwraeth dros gyflwr rhai o'r tai a oedd yn dirywio.
Cwblhawyd arolygon mewnol ac allanol ar bob un o'r adeiladau. Daethpwyd i'r casgliad yn dilyn yr archwiliad mai dirywiad toeau a simneai oedd y prif broblem a oedd yn gyffredin ym mhob un o'r ddau dy ar bymtheg. Nodwyd bod y tai wedi cael eu moderneddio at wahannol raddau, ond o gofio mai pobl hyn yw'r rhan fwyaf o'r trigolion, roedd y safon gyffredinol yn isel.
O'r dechrau un, y bwriad oedd targedu eiddo'r rhai ar incwm isel. O ganlyniad mae perchnogion eiddo a adnewyddwyd wedi derbyn lefelau uchel o gymorth grant. Hefyd maent wedi cael elwa o dderbyn arian a weinyddir gan drefniadau Cynllun Trefi CADW. Mae hyn wedi sicrhau bod agweddau cadwraeth yr adnewyddiad, ddim yn gymwys dan y grant adnewyddu wedi cael eu gweithredu, i sicrhau adnewyddiad cydymdeimlol i'r eiddo.
Cyfartaledd y gwariant ar bob eiddo oedd £20,000 a chyfraniad o £3,000 o gronfa'r Cynllun Trefi.
Mae'r holl eiddo ar y stryd yn arddangos problemau dirywio tebyg. Byddai deiliaid nifer sylweddol o'r rhain yn gallu manteisio fwyaf ar grant adnewyddu.
Bydd cyfanswm y pecyn grant ar gyfer bob eiddo, sy'n cynnwys arian CADW (Grantiau Cynllun Trefi) yn galluogi cynllun adnewyddu cynhwysfawr, sydd hefyd yn parchu cymeriad yr eiddo fel adeiladau rhestredig mewn ardal gadwraeth ddynodedig.
Heb y cymorth hwn, mae'n bosibl na fyddai atgyweiriadau sylfaenol i'r adeiladau yn gallu cael eu gweithredu dan y Cynllun Trefi, gan gofio proffil y boblogaeth breswyliol (cyfuno modd isel ac anawsterau ffisegol).
Bydd
cyfanswm y pecyn grant ar gyfer bob eiddo, sy'n cynnwys arian CADW (Grantiau
Cynllun Trefi) yn galluogi cynllun adnewyddu cynhwysfawr, sydd hefyd yn
parchu cymeriad yr eiddo fel adeiladau rhestredig mewn ardal gadwraeth
ddynodedig.
Heb y cymorth hwn, mae'n bosibl na fyddai atgyweiriadau sylfaenol i'r adeiladau yn gallu cael eu gweithredu dan y Cynllun Trefi, gan gofio proffil y boblogaeth breswyliol (cyfuno modd isel ac anawsterau ffisegol).
Is-Adran Grantiau
Adran Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU
Ffôn: 01978 315300
Ffacs: 01978 315580
Ebost: housing@wrexham.gov.uk