Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwres Trydanol

 

Rheoli eich gwres trydanol

Pan fydd system gwres trydanol wedi ei gosod mae'n debygol y bod gennych stôr-wresogyddion trydanol y cyfeirir atynt yn aml fel 'Economy 7'.

'Economy 7' yw'r tariff ar gyfer cyflenwi'r trydan. Cewch eich bilio ar ddwy gyfradd brisio yn ddibynnol ar ba amser o'r dydd neu'r nos rydych yn defnyddio'r trydan. Fe fydd y rhan fwyaf o'r gwres a'r dwr poeth ar y gyfradd oriau mân pan fydd cost y trydan yn rhatach. Fe fydd gweddill y trydan ar gyfer defnydd heblaw am gynhesu fel coginio, smwddio, teledu ayb yn cael ei filio ar y gyfradd oriau brig (dydd) ac mae'r trydan hwn yn costio bron i dair gwaith gymaint.

Mae'r dwr poeth yn cael ei gyflenwi o danc dwr mawr. Mae'r tanc dwr mawr â thanc llai uwchben wedi ei inswleiddio ac mae dau wresogydd trydanol tanddwr ynddo.

Mae gennych ddewis o ddwy ffordd o ddefnyddio'r system dwr poeth, mae'r dewis yn un personol yn ddibynnol ar ffordd o fyw a'ch defnydd o ddwr poeth.

Defnyddio'r cyfleustra storio dros nos

Os oes gennych alw mawr am ddwr poeth argyfer coginio ac ymolchi, dyma'r ffordd orau a rhataf i gynhesu eich dwr poeth. Gan ddefnyddio'r gwresogydd trydanol tanddwr yng ngwaelod y tanc fe fydd tanc llawn o ddwr yn cael ei gynhesu ar y raddfa rhad yn yr oriau mân. Fe fydd digon o ddwr poeth ar gael i'w ddefnyddio yn ystod y dydd. Fe ellir defnyddio'r gwresogydd trydanol tanddwr sydd ar ben y tanc fel 'hwb' os oes angen dwr poeth yn ystod y prynhawn a min nos.

Ffyrdd eraill

Os nad ydych yn defnyddio llawer o ddwr poeth yna fe allai fod yn rhatach, yn enwedig os ydych yn codi yn fuan neu rydych ar eich traed tan yn hwyr i beidio â defnyddio'r cyfleuster storio dros nos. Defnyddiwch y gwresogydd trydanol tanddwr (Boost) fel y dymunwch ac fe gewch y rhan fwyaf o'ch dwr poeth ar y gyfradd min nos gan arbed colled gwres wrth storio llawer o ddwr poeth. Fe fydd eich arbedion ariannol yn dibynnu ar amseru cynhesu'r dwr poeth yn ystod yr oriau mân ac felly arbed defnyddio trydan drud yn ystod y gyfradd frîg.

Stôr-wresogyddion trydanol

Mae gwresogyddion trydanol yn gweithio ar drydan y gyfradd ratach fin nos. Am hyd at saith awr bob nos mae'r elfennau cynhesu'n poethi mas o inswleiddiad tu mewn i'r gwresogyddion. Mae'r gwres hwn yn cael ei ryddhau yn ystod y diwrnod canlynol, gyda'r rhyddhad gwres yn cael ei reoli gan gaead thermostig. Mae'r gwres y mae'r uned yn ei storio yn cael ei reoli gan synhwyrydd pell sy'n mesur tymheredd yr ystafell.

Defnyddio'r stôr-wresogyddion trydanol

  • Gwnewch yn siwr fod y swits sydd ar y wal wrth ymyl y gwresogydd ymlaen.
  • Gosodwch y rheolydd mewnbwn i'r gosodiad rhwng 3 a 5 (efallai y bydd raid i chi arbrofi ychydig).
  • Gwiriwch fod y rheolydd allbwn (Boost) wedi ei osod i rhif 1.

 

Defnyddio'r rheolydd allbwn (boost)

Mae rheolydd yr allbwn wedi ei rifo rhwng 1 a 5. Fe fydd y gwresogydd yn gweithio'n iawn gyda'r rheolydd ar 1. Ond, os oes angen mwy o wres yn ystod y prynhawn a min nos fe fydd troi y rheolydd i fyny rhwng 2 a 5 yn cynyddu'r allbwn o wres. Cofiwch ei ail-osod i 1 cyn i chi fynd i'r gwely.

Pethau i'w cofio

  • Mae'r gyfradd frig yn ystod y dydd hyd at dair gwaith yn ddrytach na'r gyfradd oriau mân. Edrychwch ar eich bil trydan i weld faint yn union mae eich cyflenwr trydan yn ei godi.
  • Peidiwch â cael eich denu i ddefnyddio gwresogyddion trydanol eraill. Nid oes thermostat ar y rhain ac fe fyddant yn defnyddio trydan ar y gyfradd frig.
 
English
 

Cyswllt i

Gwres Trydanol
Golau Ynni Isel
Gwres Canolog Nwy
Nwy yn Gollwng
Awgrymiadau Arbed Ynni
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint