|
Gallai troi eich thermostat i lawr 1°C, ostwng eich bil gwres hyd at 10% ac arbed tua £30 y flwyddyn.

A yw eich dwr poeth yn rhy boeth? Ni ddylir bod angen gosod y thermostat ar eich sylindr dwr poeth yn uwch na 60°C /140°F.

Os yn bosibl cymrwch gawod yn hytrach na llenwi bath gyda dwr poeth. Mae cawod yn defnyddio 4 gwaith llai o ddwr poeth na bath.

Caewch eich llenni min nos er mwyn atal gwres rhag dianc trwy eich ffenestri.

Trowch y golau i ffwrdd wrth adael ystafell.

Peidiwch â gadael cyfarpar ar 'parod' ac hefyd peidiwch â'u gadael yn gwefrio'n ddiangen.

Os nad ydych yn llenwi'r peiriant golchi, peiriant sychu neu'r peiriant golchi llestri, defnyddiwch y rhaglen hanner llwyth neu'r rhaglen rad. Os ydych yn prynu dyfais newydd edrychwch ar y label effeithlonrwydd ynni a cheisiwch ddewis un o fand A.

Peidiwch â berwi gormod o ddwr (ond cofiwch orchuddio'r elfen gynhesu os ydych yn defnyddio tegell trydan).

Mae tap dwr poeth sy'n diferu yn gwastraffu ynni. Dros gyfnod o wythnos, bydd yn gwastraffu digon o ddwr poeth i lenwi bath felly trwsiwch dapiau sy'n gollwng a sicrhewch eich bod wedi eu troi i ffwrdd.

Newidiwch eich bylbiau golau gyda rhai ynni isel: gall un bwlb arbed hyd at £78 dros oes y bwlb - ac maent yn para hyd at 12 gwaith yn hwy na bwlb cyffredin.

| Bwlb Twngsten Cyffredin |
Bwlb Arbed Ynni Cyfatebol |
Arbedion Tebygol Dros Flwyddyn * |
| 40W |
9W |
£3.52 |
| 60W |
12W |
£5.28 |
| 100W |
20W |
£8.80 |
| 150W |
30W |
£13.20 |
| * Yn seiliedig ar ddefnydd o 4 awr y dydd dros flwyddyn |
|