|
Gweler hefyd cwestiynau a ofynnir yn aml am systemau gwres canolog nwy.
Rhaglennydd / Amserydd
Beth mae rhaglennydd yn ei wneud?
Mae'n caniatáu i chi osod yr amserau ar gyfer troi'r boeler ymlaen i blesio eich patrwm dyddiol. Unwaith mae'r amserydd wedi ei osod yna fe fydd yn rheoli pryd fydd eich system gwres canolog ymlaen neu i ffwrdd. Yn arferol dau fath o raglennydd / amserydd sydd, cloc llaw gyda thabiau er mwyn gosod yr amserau cynhesu ac un digidol. Gwnewch yn siwr fod y rhaglennydd / amserydd wedi ei osod i'r amser cywir. Os oes gennych foeler cyfunol yna fe fyddwch ond yn gallu gosod cyfnodau amseru eich rheiddiaduron gan fod y dwr poeth yn cael ei gynhesu ar y pryd gan y boeler pan agori'r y tapiau dwr poeth.
Pryd ddylwn osod fy rhaglennydd / amserydd i ddod ymlaen ac i ffwrdd?
Mae'n dibynnu arnoch chi a'ch patrwm bywyd. Mae'n well i chi osod eich boeler i ddod ymlaen tua hanner awr cyn bod angen i'ch cartref fod yn gynnes, ac i fynd i ffwrdd tua hanner awr cyn i chi fynd i'r gwely. Yn ddelfrydol dylech gael eich boeler ymlaen am ddau gyfnod ond heb fod yn fwy, na chyfanswm o 9 awr bob dydd.

Rhaglennydd / Amserydd cloc llaw ar gyfer boeler cyfun - mae'n amseru cyfnodau cynhesu'r rheiddiaduron yn unig

Rhaglennydd / Amserydd cloc llaw ar gyfer boeler cyffredin gyda tanc dwr poeth - mae'n rheoli amseroedd cynhesu y rheiddiaduron a'r dwr poeth.

Rhaglennydd / Amserydd digidol ar gyfer boeler cyffredin â thanc dwr poeth - mae'n rheoli amseroedd cynhesu y rheiddiaduron a'r dwr poeth.
Thermostat Ystafell (lle gosodwyd un)
Mae thermostat ystafell yn edrych yn debyg i'r un yn y llun hwn.

Sut mae thermostat ystafell yn gweithio?
Mae thermostat ystafell i'w gael fel arfer mewn ystafell fyw, cyntedd neu ystafell fwyta. Mae'n rheoli tymheredd eich ty cyfan yn seiliedig ar dymheredd yr aer sy'n cylchdroi o gwmpas y cartref. Pan fydd yr aer yn ddigon cynnes fe fydd y thermostat yn anfon neges at bwmp y gwres canolog a'r boeler i'w stopio rhag tanio a rhwystro'r dwr poeth rhag cael ei bwmpio o gwmpas y rheiddiaduron. Yna fe fydd eich rheiddiaduron yn oeri.
Pan fydd yr aer o gwmpas eich thermostat ystafell yn oeri yna fe fydd yn anfon neges arall i'r pwmp a'r boeler i gychwyn pwmpio dwr poeth unwaith eto i'r rheiddiaduron.
Ar ba dymheredd y dyliwn osod y thermostat ystafell?
Mae'n dibynnu ar eich sefyllfa. Os ydych yn bensiynwr neu'n anabl yna dylech osod y thermostat ystafell rhwng 21°C - 23°C (70°F - 73°F), neu fel arall mae 18°C - 21°C (66°F - 70°F) yn ddigonol ar gyfer oedolion iach.
Falfiau Thermostatig ar y Rheiddiaduron (TRV)
Gwiriwch fod y falfiau thermostatig a'r rhaglennydd / amserydd wedi eu gosod i'r tymheredd ar amseroedd dymunol. Mae'n well gosod eich falfiau ar y rheiddiaduron ar osodiad canolig (3) i ddarganfod os yw eich ystafell yn ddigon cynnes. Os yw'r ystafell yn rhy boeth yna trowch y falf i lawr un ac os yw'n rhy oer yna trowch ef i fyny un. Mae gosodiad canolig yn cyfateb i 20°C (68°F). Peidiwch â throi'r falf thermostatig YMLAEN ac i FFWRDD yn llawn er mwyn cynhesu neu oeri'r ystafell - bydd hyn yn gwastraffu tanwydd. Trowch y falf thermostatig ychydig a gadewch iddo wneud y gwaith.
Thermostat Boeler
Rheolydd sydd i'w gael ar y boeler yw hwn.
Mae'n rheoli tymheredd y dwr poeth sy'n llifo drwy'r pibellau i'r rheiddiaduron.

Sut y ddylwn osod y thermostat ar y boeler?
Gall thermostat boeler fod wedi eu graddio'n wahanol o un boeler i'r llall. Fe fydd boeler yn gweithio fwyaf effeithiol ar y gosodiad UCHEL / MAX / 5. Fe ddylai gael ei osod ar UCHEL / MAX / 5 yn y gaeaf ac ar ISEL / MIN / 1 yn yr haf.
Y Pwmp Trydanol
Mae wedi ei leoli yn y cwpwrdd crasu ac yn cael ei reoli gan y rhaglennydd / amserydd er mwyn sicrhau bod dwr poeth yn cael ei bwmpio i'r rheiddiaduron. Rhaid iddo fod wedi ei switsio ymlaen.

Tanc Dwr Poeth
Sut gallaf inswleiddio'r tanc dwr poeth?
Gallwch brynu siaced i'w rhoi o gwmpas eich tanc dwr poeth o siop DIY leol. Dyma un o'r ffyrdd rhataf a symlaf i leihau eich biliau tanwydd ac arbed ynni. Mae gan rai tanciau, ewyn wedi ei chwistrellu arnynt yn barod ac felly nid oes angen siaced ychwanegol arnynt. Mae hefyd yn talu ffordd i inswleiddio'r pibellau sy'n mynd i mewn ac allan o'r silindr - gallwch gael tiwbiau ewyn i wneud hyn. Gwnewch hyn cyn belled ag y gallwch o'r silendr.
Beth sy'n rheoli tymheredd y dwr poeth?
Os oes gennych danc i storio dwr poeth, yna fe all fod thermostat dwr poeth arno i reoli tymheredd y dwr. Mewn tanc gyda gwresogydd trydanol tanddwr, fe fydd y thermostat tu mewn i'r tanc. Os ydych yn cynhesu eich dwr poeth â boeler cyfun (combi), yna fe fydd rheolydd y dwr poeth ar y boeler yn rheoli'r tymheredd.

Ar ba dymheredd y dylai'r thermostat gael ei osod ar y tanc dwr poeth?
Fe fydd tymheredd y dwr poeth sy'n llifo allan o'r tapiau yn ddibynnol ar y tymheredd sydd wedi cael ei osod ar y thermostat dwr poeth. Yn ddelfrydol fe ddylai gael ei osod i 60°C (140°F). (Yn sicr ddim llai na 55°C oherwydd gall hyn arwain at glefyd y llengfilwyr).

Os nad ydy'r boeler yn gweithio gwiriwch y canlynol:
- Thermostat Ystafell (os oes un) - Mae hwn wedi ei osod fel arfer yn y cyntedd. Os yw wedi ei osod ar osodiad isel neu os yw'r ty'n ddigon cynnes yna gall y gwres i'r rheiddiaduron beidio â dod ymlaen.
- Falfiau Thermostatig ar y Rheiddiaduron (os oes rhai) - Os yw'r falfiau i gyd wedi eu troi i'r * symbol yna ni fyddant yn caniatáu i'r rheiddiaduron gynhesu (heblaw am unrhyw reiddiadur sydd heb un).
- Rhaglennydd / amserydd - A yw hwn wedi ei osod yn gywir? Amser o'r dydd (cloc 24awr), amseroedd gwresogi'r rheiddiaduron a'r dwr poeth (os yn foeler heb fod yn un cyfun).
- Oes toriad wedi bod yn y cyflenwad trydan? - Pan fydd y cyflenwad trydan i ffwrdd ni fydd y rhan fwyaf o foeleri gwres canolog yn gweithio. Os yw'r cyflenwad trydan wedi bod i ffwrdd am amser maith yna fe fydd yn rhaid i chi ail-osod yr amseroedd ar y rhaglennydd / amserydd.
- A yw'r swits ffiws wrth ymyl y boeler wedi ei droi i ffwrdd? Os yw ni fydd y boeler yn gweithio.

- A oes gennych ddigon o gredyd yn y mesurydd nwy a / neu drydan? Os ydych wedi defnyddio eich credyd ac wedi defnyddio eich credyd argyfwng yna ni fydd eich system wresogi'n gweithio. A yw'r cyflenwad nwy wedi ei droi i ffwrdd?
Gwybodaeth i denantiaid newydd tai CBSW
Os ydych yn symud i mewn i dy sydd wedi bod â thenantiaid blaenorol hwyrach ni fydd cyfarwyddiadau ar gyfer y system gynhesu ar gael. Gallwch ofyn i un o gontractwyr nwy CBSW egluro i chi sut i reoli'r system pan fyddant yn gwneud archwiliad diogelwch nwy.
Os nad ydych yn deall y system ac os nad oes gan yr un o'r cymdogion y gallwch ofyn iddynt system debyg, yna ffoniwch eich swyddfa ystad leol a gofynnwch i rywun ail-egluro'r system i chi. Os ydych yn sicr eich bod deall y system ac nid yw'n gweithio'n iawn, yna gwiriwch y rhestr uchod cyn cysylltu â'r swyddfa.
|