A ddylwn ni adael fy nwr poeth a'r system wresogi ymlaen drwy'r amser neu a ddylwn ddefnyddio'r rhaglennydd / amserydd?
Camdybiaeth gyffredin yw meddwl ei bod yn rhatach gadael eich system gwres canolog ymlaen drwy'r amser. Er bydd y boeler yn cymryd mwy o danwydd i gynhesu'r cartref a'r dwr poeth i gychwyn fe fydd y gost yn sylweddol llai na chynhesu eich cartref am 24 awr. Mae'r egwyddor bod dyfeisiadau'n defnyddio mwy o bwer i gychwyn yn gyffredin iawn e.e. ceir, poptai a thegell, ond nid ydym yn cadw rhain ymlaen am 24 awr y dydd.
^ yn ôl i'r brig
A yw'n rhatach gadael y boeler i gynhesu'r dwr poeth drwy'r amser?
Na, mae bob amser yn rhatach i gynhesu'r dwr poeth pan rydych ei angen, gan fod tanc llawn dwr poeth yn mynd i golli ychydig o'i wres ac felly yn cael ei gynhesu'n gyson gan y boeler. Fel arfer fe gymerir tua 30 - 45 munud i gynhesu llond tanc o ddwr poeth. Gosodwch eich rhaglennydd / amserydd i gynhesu'r dwr cyn i chi gael bath neu gawod yn y bore ac i ddod ymlaen wedyn cyn eich bod eisiau dwr poeth eto. Yn aml fe fydd botwm ar eich rhaglennydd / amserydd a fydd yn caniatáu i chi gynhesu'r dwr rhwng yr amserau hyn.
^ yn ôl i'r brig
A ddylwn adael fy ngwresogydd trydanol tanddwr ymlaen yn barhaol?
Na, ddylech os oes foeler gwres canolog defnyddiwch hwnnw i gynhesu'r dwr poeth. Yn ddelfrydol defnyddiwch y rhaglennydd / amserydd i amseru cyfnodau cynhesu eich dwr poeth a'r rheiddiaduron yr un pryd. Gallwch ddefnyddio'r gwresogydd trydan tanddwr am gyfnodau byr i gynhesu ychydig o ddwr. Gallwch ddewis defnyddio eich gwresogydd trydan danddwr i gynhesu eich dwr poeth yn yr haf pan na fyddwch yn defnyddio'r boeler i gynhesu'r rheiddiaduron. Os nad ydych yn defnyddio llawer o ddwr poeth fe all hyn fod yn ffordd rhatach o gynhesu dwr yn yr haf.
^ yn ôl i'r brig
A ddylwn ddefnyddio gwresogydd cludadwy / tân addurnol neu droi'r system gwres canolog ymlaen?
Mae unrhyw wresogydd trydanol sy'n defnyddio plwg (gan gynnwys rheiddiaduron wedi eu llenwi âg olew), gwresogyddion nwy cludadwy a thannau nwy addurnol yn ddrud ac yn ffordd aneffeithiol o gynhnesu eich cartref. Mae'r gwres yn costio tua tair gwaith yr uned yn fwy na gwres trwy system gwres canolog nwy. Mae gwresogydd nwy cludadwy'n cynhyrchu llawer iawn o anwedd dwr fydd yn gwneud y ty yn llaith. Yr unig amser y dylech ystyried defnyddio gwresogyddion o'r fath yw pan fod gennych y dewis o gynhesu ystafell unigol gyda gwresogydd cludadwy neu dy cyfan gyda system gwres canolog. Er hyn ni ddylech ystyried defnyddio gwresogyddion cludadwy yn lle gwres canolog. Fe ddylent fod ar gyfer defnydd achlysurol yn unig, sef ar ddiwedd y dydd pan fydd y system gwres canolog wedi ei throi i ffwrdd.
^ yn ôl i'r brig
Hyd yn oed pan fyddaf wedi eu troi i fyny, nid yw'r rheiddiaduron yn aros yn boeth o hyd - Beth sy'n gyfrifol am hyn?
Mae tymheredd y rheiddiaduron yn amrywio yn naturio pan fydd falfiau thermostatig wedi eu gosod ar y rheiddiaduron. Mae hyn yn arferol.
^ yn ôl i'r brig
Pam fod y boeler yn tanio ac yn mynd i ffwrdd yn aml?
Fe fydd y boeler yn tanio dim ond pan fydd eich rheiddiaduron neu eich dwr poeth ymlaen. Os oes gennych thermostat ystafell yna fe fydd y 'tanio' yn peidio pan fydd y ty'n ddigon cynnes. Fe fydd y boeler yn diffodd. Pan fydd tymheredd y ty yn disgyn yna fe fydd y thermostat ystafell yn dweud wrth y boeler am danio eto, gan ailgynhesu'r dwr poeth a fydd wedyn yn cael ei bwmpio o gwmpas y rheiddiaduron.
^ yn ôl i'r brig
Os na'i droi'r thermostat ystafell i fyny'n uchel a fydd yr ystafell yn cynhesu'n ynghynt?
Na, ni fydd yr ystafell yn cynhesu'n ynghynt, dim ond yn cael ei chynhesu i dymheredd uwch.
^ yn ôl i'r brig
Rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'r amser yn yr ystafell fyw, felly dwi wedi troi'r rheiddiaduron yn yr ystafelloedd eraill i ffwrdd - ydi hyn yn iawn?
Na, oherwydd gall dwr gyddwyso ar waliau a ffenestri'r ystafelloedd eraill. Hefyd, os ydych yn defnyddio un rheiddiadur yn unig nid yw'n llesol i'r boeler ac fe allai ei ddifrodi. Rydym yn awgrymu y dylech osod y falfiau thermostatig ar y rheiddiaduron i 1 - 2 ym mhob ystafell heblaw am yr un yn yr ystafell fyw a gosod y falf ar honno i rif uwch.
^ yn ôl i'r brig
Nid yw'r ystafell fyw yn ddigon cynnes. Mae gennyf y thermostat ar y rheiddiadur ar y rhif uchaf drwy'r amser. Mae'r thermostat ystafell yn y cyntedd wedi ei osod ar 16°C gan nad wyf am i'r ystafelloedd gwely fod yn rhy boeth. Beth ddylwn ei wneud?
Trowch y thermostat ystafell yn y cyntedd yn uwch i tua 18°C - 20°C (66°F - 70°F). Fe ddylai'r ystafell fyw fod yn gynhesach yn awr. Trowch y falfiau thermostatig ar y rheiddiaduron i osodiad isel er mwyn sicrhau nad yw'r ystafelloedd hynny yn or-boethi.
^ yn ôl i'r brig
Nid wyf yn defnyddio dau o'r llofftydd, a ddylwn droi'r rheiddiaduron i ffwrdd?
Na, oherwydd gall cyddwysiad ddigwydd yn y llofftydd hyn. Yn lle hyn trowch y falfiau thermostatig ar y rheiddiaduron i lawr i osodiad isel. Fe fydd y rheiddiaduron hyn yn cynhesu pan fydd y boeler ymlaen a'r ystafelloedd hyn yn oer iawn. Caewch y drysau i'r ystafelloedd hyn er mwyn eu hatal rhag tynnu gwres o weddill y ty.
^ yn ôl i'r brig
Mae'r gwres ymlaen ond mae'r rheiddiadur yn yr ystafell fyw wedi oeri, pam?
Mae'r thermostat ar y rheiddiadur yn synhwyro pan fydd yr ystafell yn ddigon cynnes ac yn stopio llif y dwr poeth i mewn iddo. Pan fydd yr ystafell yn oeri fe fydd y falf yn agor ac yn caniatâu i ddwr poeth ailddechrau llifo i'r rheiddiadur ac fe fydd yn cynhesu unwaith eto.
^ yn ôl i'r brig
Pam fod rheiddiadur gyda falf thermostatig yn oer pan fo'r gwres ymlaen?
Mae'r thermostat wedi cau llif y dwr poeth i'r rheiddiadur gan ei bod wedi synhwyro fod tymheredd yr aer yn yr ystafell honno'n ddigon cynnes.
|