Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Nwy yn Gollwng

 

Os ydych amau fod gennych nwy yn gollwng:

Cysylltwch â TRANSCO yn union ar ôl troi y ddyfais i ffwrdd ar cyflenwad nwy wrth y mesurydd.

  • PEIDIWCH â diffodd na throi ymlaen unrhyw gyfarpar trydanol.
  • PEIDIWCH ag ysmygu
  • PEIDIWCH â defnyddio fflamau noeth
  • PEIDIWCH â defnyddio 'intercom' na systemau agor drysau - maent yn gallu cynhyrchu gwreichion.
  • PEIDIWCH â defnyddio ffôn yr eiddo - maent yn gallu cynhyrchu gwreichion.
  • PEIDIWCH â defnyddio ffôn symudol
  • PEIDIWCH â throi switsys ymlaen nac i ffwrdd - maent yn gallu cynhyrchu gwreichion.
  • AGORWCH ffenestri a drysau er mwyn gwaredu'r nwy.
  • TROWCH y nwy i ffwrdd wrth y mesurydd.
  • Os yw arogl nwy yn dal i fodoli - ewch allan o'r adeilad.

Rhif argyfwng TRANSCO yw
0800 111 999

Ar gyfer pobl fyddar a rhanol fyddar - Minicom / ffôn testun - 0800 371 787

Fe fydd TRANSCO yn gofyn am y wybodaeth ganlynol:

  • Cyfeiriad a chôd post llawn
  • Enw'r galwr / tenant
  • Rhif ffôn
  • Ers pryd rydych wedi sylwi ar yr arogl nwy?
  • O ble mae'r arogl / gollyngiad nwy yn dod?
  • A yw'r nwy wedi ei droi i ffwrdd wrth y mesurydd?
  • A oes yna blant neu bobl hyn yn yr eiddo?
  • A oes yna unrhyw drefniadau mynediad arbennig?

Fe fydd Transco yn ceisio darganfod lle mae'r nwy yn gollwng ac yn gwneud eu gorau glas i'w drwsio ar y pryd. Os nad yw hyn yn bosibl gan fod gwaith ehangach angen ei wneud yna bydd Transco yn dweud wrth y Cyngor ac fe fydd y gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl wedi hynny. Fe fydd Transco yn diogelu eich eiddo ac yn dweud wrthych beth i'w wneud. Pan fydd hi'n anodd darganfod lle mae'r nwy yn gollwng yna fe fydd y cyflenwad yn cael ei droi i ffwrdd wrth y mesurydd. Os digwydd hyn, yna cysylltwch ag adran cynnal a chadw CBSW ar 08000 855 808 neu adran 'Galwad Gofa' (allan o oriau gwaith) ac fe fyddant yn anfon contractiwr i wirio'r pibellau nwy.

Diogelwch Nwy

Mae'r gyfraith yn dweud bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gosodiadau pibellau, cyfarpar nwy ac os yw'n berthnasol, ffliwiau'n cael eu profi bob 12 mis. Rydym yn cymryd y gwaith hyn o ddifrif.

Pam fod rhaid gwneud y gwaith hwn?

  • Mae pobl yn marw o wenwyn carbon monocsid.
  • Mae'n gyfraith.
  • Mae cynnal a chadw rheolaidd yn sicrhau bod eich system gynhesu'n gweithio'n effeithlon gan arbed arian i chi a diogelu'r amgylchedd.
  • Mae'n ein galluogi i weld a oes angen gwneud mwy o waith.

Ni does raid i chi boeni am y gost, oherwydd mae'r gwasanaeth blynyddol am ddim. Rydym hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod prawf diogelwch nwy blynyddol yn cael ei wneud ym mhob eiddo sydd â chyflenwad nwy, mae hyn yn cynnwys prawf diogelwch ar eich cyfarpar chi.

Eich cyfarpar nwy chi

Yn ystod y prawf diogelwch fe fyddwn yn profi unrhyw ddyfeisiadau nwy rydych chi'n berchen arnynt. Os rydym yn canfod rhai nad ydynt yn ddiogel fe fyddwn yn dweud wrthych, ond chi sy'n gyfrifol am eu trwsio neu eu hadnewyddu.

Carbon Monocsid - y lladdwr tawel

Mae gwenwyno damweiniol gyda charbon monocsid yn lladd tua 40 o bobl ym Mhrydain bob blwyddyn. Mae llawer iawn mwy (dros 200) yn dioddef o symptomau gwenwyno carbon monocsid.
Mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu gan ddyfeisiadau nwy:

  • Sydd wedi eu gosod yn wael.
  • Sydd heb eu cynnal a cadw yn iawn.
  • Awyru annigonol.

Mae'n nwy anweledig heb arogl na blas. Gall ychydig ohono arwain at amrywiaeth o broblemau iechyd difrifol gan gynnwys niwed i'r ymennydd.

Gall carbon monocsid a ollyngir gan ddyfeisiadau nwy peryglus LADD.

Er nad ydych yn ystyried eich bod mewn perygl, efallai bod nwyon gwenwynig yn dianc i mewn i'ch cartref.

Ni fedrwch flasu nac arogleuo carbon monocsid ond fe all fod yn farwol. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar y wefan Carbon Monoxide Kills (gwefan allanol).

Arwyddion Peryglus

Arwyddion peryglus o garbon monocsid yn gollwng

  • Mae arwyddion o garbon moncsid yn gollwng yn cynnwys marciau huddugl ar waliau wrth ymyl dyfeisiadau nwy a fflamau sy'n llosgi yn oren yn hytrach na glas.

Mae symptomau o wenwyn carbon monocsid yn cynnwys:

  • Blinder, cur-pen, poenau brest, ansicrwydd wrth sefyll i fyny, poen bol, dolur rhydd ac ymddygiad anarferol.

Gall dyfais nwy diffygiol fod yn gyfrifol am wenwyno, yn enwedig os yw:

  • Mwy nag un unigolyn yn eich teulu neu ymwelwyr yn dioddef symptomau.
  • Y symptomau'n gwella pan fyddwch i ffwrdd o'r cartref ac yn gwaethygu pan fyddwch yn dychwelyd.
  • · Y symptomau'n waeth pan fydd y ddyfais nwy yn cael ei ddefnyddio.

Gall unrhyw ddyfais nwy - tanau, gwresogyddion, boileri gwres canolog, gwresogyddion dwr neu boptai nwy - achosi'r effeithiau hyn.

Arwyddion peryglus

Gall eich dyfais nwy fod yn beryglus os ydych yn sylwi unrhyw un o'r canlynol:

  • Fflam oren neu felyn yn hytrach nag un glas.
  • Fflam 'gychwyn' sy'n diffodd yn reolaidd.
  • Unrhyw ddarn o'r ddyfais yn dangos hoel o losgi neu marciau du neu frown.
  • Arwyddion o huddugl neu arogl o huddugl neu losgi.
  • Cynnydd mewn cyddwysiad ar ffenestri.

I arbed peryglon

  • Peidiwch byth â defnyddio dyfais nwy os ydych yn amau nad yw'n gweithio'n iawn.
  • Peidiwch byth â gorchuddio dyfais na rhwystro tyllau awyru
  • Peidiwch byth â chau na rhwystro griliau awyru nau briciau awyru
  • Peidiwch byth â gorchuddio ffliwiau allanol
 
English
 

Cyswllt i

Gwres Trydanol
Golau Ynni Isel
Gwres Canolog Nwy
Nwy yn Gollwng
Awgrymiadau Arbed Ynni
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint