Beth yw bylbiau golau ynni isel?
Tiwbiau fflworoleuol wedi eu plygu er mwyn ffitio gosodiad golau cyffredin yw bylbiau golau ynni isel. Maent yn defnyddio tua chwarter i bumed rhan o drydan o'u cymharu â bylb golau cyffredin. Er eu bod yn costio mwy maent yn para sawl blwyddyn. Mae hyn yn golygu na fydd raid i chi newid y bylbiau bob ychydig o fisoedd ynghyd â lleihau eich biliau trydan.
Ble yn y cartref y dylwn osod bylbiau golau ynni isel?
Y lle gorau yw mewn ystafelloedd lle mae'r golau ymlaen am amser hir. Fe gewch eich arian yn ôl mewn llai na blwyddyn os rhowch y bylbiau fan hyn. Mewn ystafelloedd sy'n cael eu defnyddio'n llai aml fe gymer hi fwy o amser i chi adennill eich arian yn ôl, ond gan eu bod yn para hyd at 10 i 15 gwaith yn hirach na bylbiau cyffredin, mae'n werth ei wneud bod tro. Bydd bywyd bylbiau'n llai os ydych yn eu diffodd a'u cynnau, yn aml ond nid yw'n rheswm i boeni amdano. Os ydych yn poeni am y gost, yna ystyriwch faint o drafferth ac amser y byddwch yn eu harbed wrth i chi beidio â gorfod newid bylbiau bob ychydig o fisoedd. Cofiwch fod defnyddio bylbiau ynni isel yn ffordd hawdd iawn o arbed ynni yn y cartref.
Pa fath o fylbiau y gallaf eu newid?
Gallwch newid goleuadau crog, spot, cannwyll, crwn, bylbiau mewn lamplen a llawer mwy o fylbiau gyda bylb golau ynni isel. Gallwch hyd yn oed eu cael mewn lliw. Mae gosodiadau sgriw yn fwy cyffredin na rhai bidog ar fylbiau spot. Y gamp yw darganfod y math o fylb rydych ei angen!
Bylbiau Golau Ynni Isel Cyfatebol
Wrth i chi ddefnyddio bylbiau golau ynni isel fe fyddwch yn gwneud arbedion dros oes y bylb o'i gymharu â bylb cyffredin. Yn enwedig wrth ystyried bod bylb golau ynni isel yn para hyd at 12 gwaith yn fwy.
Mae bylbiau golau ynni isel yr un mor hawdd i'w gosod â bylbiau cyffredin a gallant gael eu defnyddio yn y rhan fwyaf o osodiadau golau cyffredin. Gall bylbiau golau ynni isel gael eu defnyddio o gwmpas y ty heb law am sefyllfa pan fydd gennych synhwyrydd electronig, swits pylu neu swits amserydd electronig.
| Bylb golau twngsten cyffredin |
Bylb Golau Ynni Isel cyfatebol |
Arbedion blynyddol i bob bylb * |
| 40W |
9W |
£3.52 |
| 60W |
12W |
£5.28 |
| 100W |
20W |
£8.80 |
| 150W |
30W |
£13.20 |
| * Yn seiliedig ar ddefnydd cyfartalog o 4 awr y dydd |
|